Reviews
Nofel fywiog a gafaelgar, â'i stori ddirdynnol yn llifo fel afon trwyddi.
- Dewi Prysor
... cwpwl o bennodau mewn i'r stori ffeindiais fy hun yn uniaethu mwy a mwy gyda [Lowri, y prif gymeriad], gan sylweddoli fod y teimlad o rhwystredigaeth 'na'n fwy agos at fywyd go iawn nag unrhywbeth arall dwi 'di ddarllen ynddiweddar. Fydd bywyd ddim yn berffaith- dyna beth gofiais i wrth ddarllen... Nofel andros o realistig yw Twll Bach yn y Niwl - mae'n stori sy'n gwrando arnon ni'n cwyno ar ôl diwrnod hir, ac yna'n adrodd stori embarrassing i wneud i ni deimlo'n well.
- Gwefan Y Stamp
Wyt ti erioed wedi syrthio mewn cariad â chymeriad cymaint rwyt ti jest isio neidio mewn i'r llyfr a threulio amser efo nhw?! Dwi wrth fy modd â Lowri – wnes i ddarllen 120 tudalen ddoe ond wedi arafu heddiw achos dydw i ddim am i'r stori orffen.
- Rebecca Roberts, Instagram
Mae hi'n nofel gynnes sy'n delio gyda themâu dwys, a ro'n i wrth fy modd gyda'r portread o'r cariad cynhaliol ro'dd ffrindiau a theulu'r prif gymeriad Lowri yn ei roi iddi'n ddiamau… Mai'n stori ro'n i fel darllenydd yn uniaethu â hi ar sawl lefel ac roedd hi'n braf darllens tori ro'n I'n teimlo oedd wedi'i sgwennu i fi yn y Gymraeg. Dwi'n edrych mlaen at ddarllen mwy o lais ffresh Llio Maddocks.
- Lico Llyfre Lot
Peth arall yr oeddwn yn hoff iawn ohonno oedd sut yr oedd y nofelau yn delio a themau eithaf twfn e.e problemau iechyd meddwl, trais, salwch
- Cadi, Llyfrgell Llandrillo
Wnes i rili joio hwn. Wnaeth e neud i fi chwerthin (lot!) a chrio a nawr i fi moyn pob person i fi'n nabod sy'n siarad Cymraeg i ddarllen e.
- Siani the Reader
Heb os, mae'r nofel yn un dwys a chignoeth ond ysgafn ac yn hawdd i'w ddarllen. Dyma nofel hollol unigryw, a nid oes nofel Gymraeg tebyg wedi'i hysgrifennu. Mae'n fywiog, yn llifo'n fendigedig, yn onest, doniol, torcalonnus a chyffrous i gyd ar yr un pryd.
- Llio Non, Son am Lyfra
Llongyfarchiadau Llioelain - wedi gwenu, chwerthin a gwingo, a dyna'r diweddglo perffaith!
- Bethan Gwanas, Trydar
Llyfr y flwyddyn i fi! Nofel hollol realistig a mor hawdd uniaethu hefo Lowri. Gobeithio gawn ni wybod be sy'n digwydd nesa iddi hi a'r criw!
- Cadi Rhys, Trydar
Dwisio gallu sgwennu fel Llio Elain! Mae Twll Bach yn y Niwl yn nofel a hanner. Dwi ddim yn cofio nofel Gymraeg arall yn disgrifio bod yn ifanc ac ar goll mewn ffordd mor real.
- Mair Jones, Trydar
Er bod y nofel yn dechrau ar nodyn ysgafn, mae'r awdur yn plannu themâu dwys drwyddi draw, fel hadau bach sy'n galluogi i'r nofel ddatblygu a thyfu'n stori sy'n fwy dirdynnol na hanes troeon twstan a bywyd carwriaethol trychinebus merch ifanc. Yn wir, roedd y dagrau'n powlio i lawr fy ngruddiau tua'r diwedd... Mae Twll Bach yn y Niwl yn nofel ddarllenadwy, lawn hiwmor sy'n pendilio'n gelfydd rhwng y llon a'r lleddf. Darllenwch!
- Non Mererid Jones, Western Mail Weekend Magazine
Cyfoes, perthnasol a chynnes, yw'r tri ansoddair byddwn i bendant yn eu defnyddio i ddisgrifio 'Twll Bach yn y Niwl'.
Bendant, hon yw un o'r nofelau gorau rwyf wedi ei darllen, llyfr sydd yn eich cysylltu â'r byd go iawn, llyfr na fyddwch eisiau ei roi i lawr a llyfr fydd yn gwneud i chi werthfawrogi eich ffrindiau a'ch teulu. Llyfr fydd yn gwneud i chi chwerthin yn uchel un munud a cholli dagrau'r munud nesaf.
- Betsan Griffiths, Y Cymro
Pleser pur... cyfoes, hollol gredadwy... Mae Lowri'n gymeriad cymhleth, fel pawb. Mae'n grac, mae'n hunanol, mae'n anghyfrifol. Ond mae hefyd yn ddoniol, hynny yw mae'n ferch tri dimensiwn.
- Lowri Cooke, Y Silff Lyfrau, BBC Radio Cymru