Reviews
Mae hoffter yr awdur o nofelau ditectif yn amlwg gan fod hon yn perthyn yn agosach i'r genre hwnnw nag i ffantasi. Mae'n nofel ddifyr fydd yn apelio at oedolion hefyd, ac mae'r awdur yn amlwg yn grddol adeiladu haenau i'r cefndir Mabinogaidd at y gyfrol nesaf.
- Gwenan Mared, Barn
Dyma nofel hawdd i'w darllen ar gyfer pobl ifanc sy'n rhoi gwedd newydd ar straeon a chymeriadau'r Mabinogi. Mae hi'n nofel ffantasi, hud a lledrith, lawn antur sydd wedi'i gwreiddio ym mywyd arferol bob dydd. Hawdd yw uniaethu â Manawydan a'i ffrindiau er gwaethaf yr holl ddirgelwch arallfydol.
- Dylan Halliday, Cambrian News
Mae 'na densiwn rhyfeddol ynddi ac mi wnes i wir werthfawrogi'r eglurhad ynglŷn â pham nad ydi Manawydan a'i fêts yn defnyddio gynnau. Maen nhw'n defnyddio cleddyfau ac ati dach chi'n gweld - yn yr oes fodern.
- Bethan Gwanas, Llygad y Dydd
Mae'r awdur yn llwyddiannus wrth greu darn o waith ffuglen sy'n troedio tir ffantasi, hud a lledrith ac antur arallfydol, ond sydd wedi'i wreiddio ym mywyd arferol bob dydd. (Sôn am Lyfra)
- Sôn am Lyfra, Y Cymro
Mae darllen y gyfrol yn gyfle delfrydol i gylfwyno plant yn eu harddegau i hanesion y Mabnogi.
Dyma nofel unigryw sy'n andalu bywyd newydd i straeon hynaf y wlad trwy gydblethu hudoliaeth chwedlonol y Mabinogi gydag antur gyfoes, ac yn llwyddo i bontio dirgelwch a ffantasi. Clyfrwch y stori yw'r cyfuniad rhwng elfennau o'r chwedlau gwreiddiol ag antur wefreiddiol, newydd sbon.
- Alice Jewell, Y Cymro