Reviews
Mae dawn Mel i ddweud stori dda ar lwyfan wedi trosglwyddo i'r dudalen. Os ydych chi'n hoffi chwerthin, darllenwch y llyfr yma!
- Mari Beard
Ymddangosodd Mel ar y sin gomedi Gymreig fel chwa o awyr iach, a nawr mae hi wedi dod â'r chwa i lyfrau Cymraeg gyda'i dawn greadigol arbennig fel llenor. Mae Mel yn cyfoethogi'r diwylliant Cymreig yn enfawr
- Elis James
Peth prin yw cofiant gan rywun 29 oed. Ond mae Melanie Owen, digrifwr, sgriptiwr, podlediwr a chyflwynydd o Geredigion, wedi penderfynu rhannu'r gwersi mae hi wedi eu dysgu yn ei hugeiniau. A does ryfedd, gan eu bod hi eisoes wedi byw bywyd llawn cyffro. Fe gawn son am ei magwraeth yng nghefn gwlad Ceredigion, gan dynnu sylw'n gynnil at yr hiliaeth feunyddiol mae hi'n ei brofi fel merch aml-hil, ac yn rhoi swadan haeddiannol i'r rheiny sy'n dal i wneud y fath beth.
- Non Tudur, Golwg
Mae yma lwyth o hiwmor, ond tristwch hefyd a thensiwn. Mae'r llyfr yn 100% Mel, yn llawn bywyd ac egni a gonestrwydd. Mae'n wledd o gyfrol.
- Bethan Gwanas, LLygad y Dydd
Dyma lyfr fydd yn sobri darllenwyr ac yn gwneud iddynt forio chwerthin.
- Y Cymro
Dyma gyfrol sy'n fwriadol yn procio'r meddwl traddodiadol, 'saff' sydd gennym fel Cymry am lenyddiaeth, yn enwedig yng nghyd-destun y ffurf hunangofiannol. Cyflwyno pethau fymryn yn wahanol, adrodd hanes ychydig yn fwy 'real', yn fwy amrwd, ar ffurf straeon byrion yn hytrch na thraethu, dyna gawn ni...mae yma rhywbeth at ddant pawb. Mae yma glyfrwch geiriau, fel 'pwysau i goll pwysau' neu 'ti ddim angen cariad i brofi cariad'. Prif grefft yr awdur yw ei gallu i drafod problemau dyrys law yn llaw ag episodau doniol, hynny gyda sensitifrwydd ac amrydedd hollol briodol.
- Buddug Roberts, Y Cymro