Newyddion
Cyhoeddi'r cofiant cyflawn cyntaf erioed i Cynan
Mae’r cofiant yn ymdrin â sawl agwedd ar ei fywyd – fel bardd, eisteddfodwr, Cofiadur, Archdderwydd, cyd-ysgrifennydd Cyngor yr Eisteddfod, sensor dramâu, dramodydd, cynhyrchydd, beirniad. Rhannwyd y gyfrol yn saith pennod neu act i gyfateb yn gronolegol i wahanol gyfnodau yn ei fywyd lliwgar a llawn. darllen mwy
Cyhoeddi hunangofiant un o arloeswyr pennaf y Gymraeg
Y mis hwn cyhoeddir hunangofiant un sydd wedi bod wrth galon rhai o’r datblygiadau a’r penderfyniadau pwysicaf yn hanes y diwylliant Cymraeg. Gwasg y Lolfa sy’n cyhoeddi Dwi isio bod yn..., hunangofiant y canwr, darlledwr a’r dyn busnes Huw Jones. darllen mwy
Llyfr Shwshaswyn i gyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar i blant bach
Mae iechyd meddwl wedi dod yn bwnc amlwg dros y blynyddoedd diwethaf, ac wedi dod hyd yn oed yn fwy perthnasol eleni, yn sgil argyfwng rhyngwladol Coronafeirws. Mae trefn arferol miloedd o blant ac oedolion wedi’i ddinistrio, a gofid ac ansicrwydd wedi codi yn ei le. Yr wythnos yma, cyhoeddir llyfr cyntaf Shwshaswyn, Garddio, sydd hefyd yn gyfres deledu. Mae’r gyfres newydd yma, sydd yn trafod ymwybyddiaeth ofalgar, wedi’i hanelu at blant dan 7 oed, ac yn gwahodd plant i ddianc o brysurdeb eu byd drwy arafu, gwrando, llonyddu a thawelu. darllen mwy
Llyfr coginio newydd yn dathlu'r lleol, y tymhorol, y cynaliadwy a'r Cymreig
Mae’r gyfrol goginio Bwyd Cymru yn ei Dymor / Welsh Food by Season yn llawn ryseitiau traddodiadol a chyfoes wedi’u creu gan Nerys Howell, sy’n wyneb cyfarwydd iawn i wylwyr Prynhawn Da ar S4C. Mae’r gyfrol yn dathlu bwyd Cymreig lleol ac yn annog pobl i fwyta’n dymhorol ac yn gynaliadwy. darllen mwy
Codi arian hanfodol i'r hosbis i blant Tŷ Hafan
Ers iddo agor yn 1999 mae Tŷ Hafan, yr elusen sydd yn cynnig gofal a chymorth i blant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr, wedi cefnogi dros 850 o blant a’u teuluoedd. Fel rhan o ymgyrch codi arian at yr elusen bwysig hon mae un o’i gwirfoddolwyr, Juliet Bebbington, wedi ysgrifennu cyfrol hwyliog i blant gynradd gyda’r holl elw yn mynd tuag at yr hosbis. darllen mwy
Golwg dychanol a damniol ar fyd addysg uwch gan gyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol Cymru
Mae’r cyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol Andrew Green yn awdur ers hanner canrif a mwy, ac yn gyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn (am Cymru mewn 100 Gwrthrych yn 2019). Mae ei nofel gyntaf, Rhwng y Silffoedd, yn mentro i fyd cyfnewidiol y brifysgol. darllen mwy
Cyhoeddi cyfrol o jôcs i godi arian i'r Gwasanaeth Iechyd
Mae dau ddigrifwr amlwg wedi dod at ei gilydd i gyhoeddi casgliad o jôcs i godi arian i’r Gwasanaeth Iechyd. Bydd Y Lolfa yn cyhoeddi’r gyfrol Gags for the NHS yr wythnos hon. darllen mwy
Cyfrol arloesol yn trafod dibyniaeth ar alcohol yn y Gymru Gymraeg
Yn ôl ymchwil gan Alcohol Change UK mae chwarter oedolion Cymru wedi cynyddu faint o alcohol maent yn ei yfed yn ystod cyfnod y Clo Mawr, gyda gwerthiant diodydd meddwol wedi neidio i fyny 31% yn ystod mis Mawrth eleni. Mae’r llyfr newydd Un yn Ormod a olygwyd gan Angharad Griffiths yn un amserol felly ac yn gobeithio agor y drafodaeth o berthynas unigolion gydag alcohol ac yn cynnig cymorth drwy’r Gymraeg ar bwnc sensitif iawn. darllen mwy
Llyfr newydd i ddysgwyr yn cynnwys straeon wedi eu hysbrydoli gan y cyfnod clo
Mae’r Ganolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Lolfa wedi cydweithio ar lyfr newydd o straeon gan rai o awduron blaenllaw Cymru ar gyfer dysgwyr. Bydd y llyfr yn cael ei lansio adeg gŵyl AmGen, gydag un stori yn cael ei ddarllen bob dydd am yr wythnos gyfan. Llyfr delfrydol i ddysgwyr sy’n awchu am ddeunydd i’w helpu yn ystod y cyfnod anodd yma. darllen mwy
Ditectif benywaidd yn cael y lle blaenaf mewn nofel gan gyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn
Mae nofelau ditectif wedi dod yn gynyddol boblogaidd yn y Gymraeg yn ddiweddar, gyda nifer o gyfresi llwyddiannu gan awduron fel Alun Davies ac John Alwyn Griffiths yn llwyddo. Dynion sydd wedi bod amlycaf yn y cyfresi yma, ond mewn llyfr newydd gan yr awdur amryddawn Jon Gower, Y Dial, mae’r ditectif Emma Freeman yn cael y lle blaenaf. Partner i Tom Tom yw Emma, oedd yn ymwneud ag achos tywyll yn nofel ddiwethaf Jon Gower o’r enw Y Düwch a gyhoeddwyd yn 2018. darllen mwy
Cyflwyno llyfr i un o gymwynaswyr mawr byd athroniaeth yng Nghymru
Gyda gwerthoedd rhyddfrydol o dan fygythiad mewn sawl rhan o’r gorllewin – o Brydain i America – mae’n anodd meddwl am bwnc athronyddol mwy cyfoes a pherthnasol i’w drafod mewn cyfrol. Prif ffocws Rheswm a Rhyddid, cyfrol newydd wedi’i olygu gan E. Gwynn Matthews, yw ymateb i’r Ymoleuad, y chwyldro syniadaethol a osododd sail ar gyfer gwerthoedd a gwleidyddiaeth y cyfnod modern ac sy’n sylfaen ddamcaniaethol i’r wladwriaeth ryddfrydol darllen mwy
Llyfr digidol Rwdlan y Cyfnod Clo yn cael ei gyhoeddi fel llyfr
Mae’r awdures Angharad Tomos yn cyhoeddi llyfr newydd yng Nghyfres Rwdlan yr wythnos hon, sef Pawennau Mursen. Cyflwynwyd y llyfr yn ddigidol yn wreiddiol, ar ddechrau’r cyfnod clo adeg y coronafeirws, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Llyfrau Plant (2 Ebrill). Ond bellach mae’r Lolfa wedi penderfynu cyhoeddi llyfr print o Pawennau Mursen – y cyntaf yn y gyfres i gael ei gyhoeddi ers wyth mlynedd. darllen mwy
Llyfr lliwio newydd Cadi i ddiddanu plant!
Mae Cadi, y ferch fach annwyl a busneslyd, a seren Cyfers Cadi gan yr awdures Bethan Gwanas, yn ôl – a’r tro yma, mae modd i blant liwio ei hanturiaethau eu hunain! Mae Llyfr Lliwio Cadi yn gasgliad hyfryd o luniau tylwyth teg a deinosoriaid, creaduriaid y môr a'r Celtiaid, sef y bydoedd mae Cadi wedi ymweld â nhw ym mhedwar llyfr cyntaf y gyfres. darllen mwy
Llythyrau dadlennol newydd yn arwain at drysor o gyfrol am Caradog Prichard
Mae llythyrau hynod ddadlennol sydd newydd ddod i’r fei mewn perthynas â’r bardd a’r llenor, Caradog Prichard, wedi arwain at gyfrol newydd amdano. Mae Trysorau Coll Caradog Prichard gan J. Elwyn Hughes yn cynnwys deunydd cwbl newydd sy’n taflu goleuni ar berthynas Caradog gyda nifer o’i gyfeillion a’i deulu. darllen mwy
Achos newydd cyffrous i Dditectif Taliesin MacLeavy
Mae’r ditectif Taliesin MacLeavy yn ôl – gydag achos newydd a phartner newydd - mewn dilyniant hir ddisgwyliedig gan yr awdur Alun Davies. Mae Ar Lwybr Dial yn dilyn y nofel hynod boblogaidd Ar Drywydd Llofrudd, ac yr ail mewn trioleg. Fel y cyntaf, mae’r ddirgelwch wedi’i leoli yn ardal Aberystwyth ac mae’r arddull yn adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledi Scandi, sy’n parhau i fod yn boblogaidd ledled y byd. darllen mwy
Ymchwilydd ifanc yn datgelu cyfrinachau diwydiant mwyn canolbarth Cymru
Mae diwydiant glo de Cymru yn adnabyddus ledled y byd, a diwydiant llechi gogledd Cymru yn cael ei gydnabod drwy’r Amgueddfa Lechi, gyda chyhoeddiadau niferus yn adrodd yr hanes. Ond beth am ddiwydiant coll mwyngloddio canolbarth Cymru? Mae Ioan Lord, awdur llyfr dwyieithog O’r Ddaear Fyddar Faith: Mwyn o Ganolbarth Cymru, yn gobeithio dod â hanes a phwysigrwydd y diwydiant a’r gymdeithas i’r amlwg drwy ei ddisgrifiadau coeth a’i luniau newydd sbon o dan ddaear. darllen mwy
Byddwch yn rhan o lyfr newydd i ddathlu'r twf mewn cefnogaeth i annibyniaeth!
Rydyn ni angen eich lluniau a’ch straeon! Mae Gwasg Y Lolfa’n paratoi cyfrol ddwyieithog i drafod a dathlu’r twf mewn cefnogaeth i Annibyniaeth i Gymru, i’w chyhoeddi yn Hydref 2020. Canolbwyntir yn bennaf ar y blynyddoedd rhwng 2016 a 2020. darllen mwy
Stori annibyniaeth Croatia'r 90au a'r cymariaethau â Chymru gyfoes yn ysbrydoli nofel
 Chymru’n profi twf mewn cefnogaeth i annibyniaeth, dyma nofel sydd â rhyfel a gwarchae ar Dubrovnik yn gefnlen iddi. Mae Perl gan Bet Jones yn stori serch wedi’i osod yn ôl yn haf 1990, yr haf pan roedd cymylau bygythiol yn dechrau crynhoi ar y gorwel fyddai’n arwain at ryfel annibyniaeth yng Nghroatia ac yna Croatia annibynnol. darllen mwy
Taclo bwlio, hiliaeth a jiráff sydd ag ofn uchder!
Mae nofel newydd Casia Wiliam, sydd wedi’i hanelu at blant 7 i 11 oed, yn gam i’r cyfeiriad cywir o ran llenyddiaeth Gymraeg yn adlewyrchu Cymru fodern, gynwysiedig. Mae’r nofel yn delio gyda themâu fel bwlio oherwydd bod y prif gymeriad yn hil cymysg. Mae Sw Sara Mai yn dilyn Sara Mai, sy’n 9 oed, wrth iddi geisio deall ei chyfoedion ym Mlwyddyn 5 cystal ag y mae’n deall yr anifeiliaid yn sw ei mam. darllen mwy
Beti George yn canmol nofel ingol am gariad a dementia
Mae’r awdures boblogaidd Mared Lewis yn cyhoeddi nofel fer, Gemau, sy’n mynd i’r afael â phwnc dwys, agos at ei chalon – dementia. darllen mwy
181-200 o 373 | 1 . . . 9 10 11 . . . 19 | |
Cyntaf < > Olaf |