Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Patagonia - Taith Mewn Paent

Y gaeaf hwn, bydd llyfr celf heb ei debyg yn cael ei lansio – ym Mhafiliwn Castell Aberteifi – sef Patagonia: Taith mewn Paent. Mae’r llyfr arbennig hwn yn ferw o baentiadau gwefreiddiol, gan un o arlunwyr mwyaf dawnus (a hynaws) Cymru – Meirion Jones, ac hanesion byw sy’n rhoi cyd-destun a goleuni unigryw i bob un. Dyma gasgliad sy’n rhoi Patagonia a’i phobl, a’i threftadaeth, ar gof a chadw; casgliad hanesyddol bwysig ac anrheg perffaith ar gyfer y Nadolig.

Meddai’r actor Matthew Rhys, sydd wedi dogfennu peth o’i brofiad ei hun yn y llyfr hwn, o dreulio mis cyfan ym Mhatagonia yn crwydro 400 milltir ar gefn ceffyl ar draws y paith:
‘Dawn brin yw dawn artist i ddal a chyfleu naws lle, yn ogystal â’i bobl. Yn sgil ei allu unigryw, mae Meirion Jones yn llwyddo i wneud hyn mewn modd sy’n ymddangos mor ddiymdrech.’

Cefndir y gyfrol
Ar yr 28ain o Fai 1865, hwyliodd criw o dros 150 o gyd-Gymry – ar fwrdd llong o’r enw’r Mimosa – o ddociau Lerpwl i beithdiroedd Patagonia… 7,700 milltir o daith. Roedden nhw ar drywydd bywyd gwell a chyfleoedd i gael siarad eu mamiaith ac i gynnal eu diwylliant yn ddi-rwystr. Wedi bron i ddeufis dyrys ar y môr, daeth creigiau gwynion Porth Madryn i’r golwg o’r diwedd.
Aeth sawl mintai o Gymru i’r Wladfa i ddathlu 150 mlwyddiant y fordaith eiconig honno, ac i gyfarfod rhai o’i disgynyddion – sy’n byw yno hyd heddiw. Roedd yr artist Meirion Jones ymhlith y minteioedd hynny, ar gais a gwahoddiad ffrindiau iddo o Batagonia – Isaías ac Eluned Grandis. Yn ystod ei daith, fe ymwelodd Meirion â rhai o’r cymeriadau, y tirweddau a’r anheddau sy’n ymgorffori dyhead y “Cymry cyntaf”. Yn rhinwedd ei ddawn ddihafal fel arlunydd, mae wedi llwyddo i’w hanfarwoli, wedi “rhewi’r hanes” – ac yn ei gyflwyno ichi rhwng y cloriau hyn. Gwledd i’r llygaid ac i’r enaid. 

DIGWYDDIADAU

Dim digwyddiadau ar hyn o bryd. Dewch yn ôl yn fuan!