Cyhoeddi eich llyfr
Mae llyfrau’r Lolfa’n enwog am fod yn boblogaidd a deniadol, am eu safon golygyddol uchel, ac am y ffordd fywiog ac ymosodol maen nhw’n cael eu hyrwyddo a’u marchnata. Mae gan y cwmni enw da ymhlith awduron proffesiynol am ddelio’n deg â chytundebau, ac am dalu breindaliadau’n gyson ac yn llawn.
Porwch drwy’r wefan hon i weld pa fath o lyfrau sydd o ddiddordeb i ni. Mae’r rhychwant yn eang ond mae gennym ddiddordeb arbennig mewn llyfrau ffeithiol a llenyddol sy’n Gymreig eu cynnwys a’u safbwynt a llyfrau gwreiddiol gan awduron ac artistiaid CymreigGrantiau a chyfraniad awdur
Mae yna lyfrau ardderchog sydd ddim yn fasnachol i’w cyhoeddi heb gymorth grant neu gyfraniad awdur. Os yw eich llyfr yn syrthio i’r categori hwn, mae’n bosib i ni wahodd cyfraniad at y costau cynhyrchu yn gyfnewid am freindal uwch na’r cyffredin, a gwarant i gadw’r llyfr mewn print. Cyhoeddir y llyfrau hyn yn y ffordd arferol dan wasgnod Y Lolfa. Holwch am fanylion ac i drefnu sgwrs.