Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Newyddion

Llew o gyfres Cyw yn cael ei lyfr ei hun!
Cofio '69: Gwrthdaro rhwng plismyn y llywodraeth a Chymry Cymraeg

Cofio '69: Gwrthdaro rhwng plismyn y llywodraeth a Chymry Cymraeg

Ar y 1af o Orffennaf eleni, fe fydd hi’n 50 mlynedd ers i Charles Philip Arthur George gael ei urddo yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969. Mae Dim Croeso ’69 – Gwrthsefyll yr Arwisgo (Y Lolfa) gan Arwel Vittle yn egluro sut beth oedd bod ym merw pethau ar y pryd, wrth iddo gyfuno’r hanes gyda sylwadau llygaid-dystion a straeon na welwyd mewn print o’r blaen.  darllen mwy

Tensiynau a chasineb yng ngwleidyddiaeth Cymru'r 60au a 70au

Os oes dau gymeriad sy’n crisialu pegynau tanllyd y cyfnod, y ddau yw’r Aelodau Seneddol Gwynoro Jones a Gwynfor Evans. Mae stori Gwynfor Evans, Plaid Cymru wedi’i adrodd dro ar ôl tro ond nid oes lawer o sylw wedi’i roi i’w gyd-Aelod Seneddol Gwynoro Jones. Yn Gwynoro a Gwynfor a gyhoeddwyd gan Y Lolfa, ceir ochr Gwynoro o hanes un o’r cyfnodau mwyaf diddorol yn hanes gwleidyddol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru.  darllen mwy

'Escape Room' yn ysbrydoli nofel i'r arddegau gan Anni Llŷn

'Escape Room' yn ysbrydoli nofel i'r arddegau gan Anni Llŷn

Yr wythnos hon cyhoeddir nofel newydd gan Anni Llŷn i’r arddegau cynnar, sef Asiant A: Her LL. Mae’r nofel am Alys Phillips, sy’n 14 oed ac yn ysbïwraig ar dasgau cudd. Mae Anni Llŷn erbyn hyn wedi ysgrifennu nifer o nofelau i’r arddegau ac yn datblygu fel awdures boblogaidd i blant o bob oedran, yn ogystal â’i gwaith fel bardd a chyflwynydd teledu.  darllen mwy

Aberth aelod teulu yn y Rhyfel Mawr yn egin nofel newydd

Aberth aelod teulu yn y Rhyfel Mawr yn egin nofel newydd

Roedd 2018 yn nodi canrif ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe nodwyd yr achlysur drwy gofio am y rhai aberthodd eu bywydau yn ystod y brwydro. I’r awdur poblogaidd arobryn Geraint V. Jones dyma oedd egin syniad am stori, a ffrwyth ei lafur ydi’i nofel newydd Elena, a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Y Lolfa.  darllen mwy

Nofel newydd yn cael ei chyflwyno i deulu o Ynys Môn am 'ddal eu tir'

Nofel newydd yn cael ei chyflwyno i deulu o Ynys Môn am 'ddal eu tir'

Fe gyflwynwyd nofel newydd Cefin Roberts, Os Na Ddôn Nhw... (Y Lolfa) i deulu Caerdegog, Ynys Môn ‘am ddal eu tir’. Meddai Cefin Roberts “Mae’r tylwyth wedi bod yn ffermio yn y rhan yma o Ynys Môn ers canrifoedd maith ac mae unrhyw un sy’n sefyll dros hawliau ac etifeddiaeth yn uchel iawn yn fy llyfrau i.”  darllen mwy

Triolegau i oedolion ifanc yn ateb y galw am ddeunydd gwreiddiol a ffres
Drama heriol newydd ar gyfer Lefel A

Drama heriol newydd ar gyfer Lefel A

Mae Hwb yn ddrama wreiddiol gyfoes i bobl ifanc gan Rhian Staples, athrawes brofiadol â llwyddiant arbennig mewn canlyniadau arholiadau Drama Lefel A ac enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2011. Fe’i chyhoeddir gan Y Lolfa ac fe ariannir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i rhaglen gomisiynu adnoddau addysgu a dysgu Cymraeg a dwyieithog. Bydd yna pecyn adnoddau yn cyd-fynd â’r ddrama, gyda gweithgareddau perthnasol i helpu athrawon ac i herio myfyrwyr.  darllen mwy

Newyddion ffug ac athroniaeth 'stand up'

Newyddion ffug ac athroniaeth 'stand up'

Gyda newyddion ffug yn cael ei drafod ym mhob cyfrwng a phob iaith ar hyn o bryd, mae llyfr Cymraeg newydd a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa yn trafod y pwnc, mewn erthygl gan yr Athro Steven Edwards, gynt o Brifysgol Abertawe.  darllen mwy

Cyfle i ysbrydoli merched bach Cymru drwy gael eu henwau mewn llyfr newydd cyffrous!
Deian a Loli - y sêr yn disgleirio ar gyfer y Nadolig

Deian a Loli - y sêr yn disgleirio ar gyfer y Nadolig

Mae Deian a Loli wedi mynd i ysbryd y Nadolig gyda llyfr newydd am ddeffro’r sêr - sy’n cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa. Yn Deian a Loli a’r Sêr sy’n Cysgu mae’r efeilliaid direidus yn cael trafferth cysgu, ac wrth edrych allan drwy’r ffenestr tra’n cael gwledd ganol nos, maen nhw’n sylwi bod y sêr wedi diflannu! Maent yn defnyddio’u pwerau hudol ac yn mynd ar daith i grombil y nos ddu i ddatrys y dirgelwch gan weld rhyfeddodau’r gofod ar y ffordd.  darllen mwy

Boc - y Where's Wally? Cymraeg cyntaf, nawr mewn llyfr

Boc - y Where's Wally? Cymraeg cyntaf, nawr mewn llyfr

Yn dilyn ei llwyddiant yng nghylchgrawn Mellten, mae Boc y ddraig fach goch yn cael llyfr cyfan iddo’i hun y Nadolig yma! Dyma’r llyfr cyntaf o’i fath yn y Gymraeg, sy’n annog pob draig-dditectif mawr a bach i chwilio am wahanol eitemau sy’n cuddio yn y lluniau.  darllen mwy

Cyhoeddi'r llyfr Cymraeg cyntaf am y Tour de France

Cyhoeddi'r llyfr Cymraeg cyntaf am y Tour de France

Yr wythnos hon cyhoeddir y llyfr Cymraeg cyntaf am y Tour de France gan Llion Iwan – Geraint Y Cymro a’r Tour de France (Y Lolfa). Mae’r llyfr yn olrhain hanes rhyfeddol buddugoliaeth Geraint gan ddilyn ei gamp yn ogystal â dilyn taith darlledu’r Tour yn y Gymraeg ers 2013 gan y person wnaeth sicrhau’r hawliau hynny, Llion Iwan.  darllen mwy

Cyhoeddi'r nofel Gymraeg fwyaf erioed - epig am hanes Cymry America

Cyhoeddi'r nofel Gymraeg fwyaf erioed - epig am hanes Cymry America

Yr wythnos hon cyhoeddir un o nofelau mwyaf uchelgeisiol yn y Gymraeg erioed, wedi ei ysgrifennu gan yr awdur arobryn Jerry Hunter a’i chyhoeddi gan wasg Y Lolfa. Mae Ynys Fadog yn epig hanesyddol gyffrous a darllenadwy sy'n darlunio hynt cymuned Gymreig yn America ac yn cynnwys bron i chwarter miliwn o eiriau, ac yn cael ei chyhoeddi ddau gan mlynedd ers i’r ymfudwyr Cymreig cyntaf gyrraedd Ohio.  darllen mwy

Cyfrol sy'n ddathliad o bêl-droed yng Nghymru

Cyfrol sy'n ddathliad o bêl-droed yng Nghymru

Ddwy flynedd ers llwyddiant dynion Cymru yn Ewro 2016, mae’r cyffro’n parhau gyda rheolwr newydd wrth y llyw, enwau chwaraewyr newydd ar wefusau’r cefnogwyr a’r record am y nifer o gapiau i dîm dynion Cymru newydd gael ei thorri gan Chris Gunter. Cawsom ein hysbrydoli gan lwyddiant tîm merched Cymru dan reolwraig newydd, ac mae ein clybiau mawr a bach yn bwysig i ni. Yn destament i’r cyffro hwnnw, cyhoeddir llyfr dwyieithog newydd gan Gwynfor Jones, Pêl-droed Cymru – o Ddydd i Ddydd.  darllen mwy

Cyhoeddi nofel a ddaeth yn ail yng Ngwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod 2018
Disgybl ysgol yn ysbrydoli llyfr am ddeinosoriaid

Disgybl ysgol yn ysbrydoli llyfr am ddeinosoriaid

Mae Bethan Gwanas wedi datgelu taw disgybl ysgol o’r enw Tyler Chown, o Ysgol Bro Cinmeirch, wnaeth ei hysbrydoli i ysgrifennu ei llyfr diweddaraf. Mae Cadi a’r Deinosoriaid yn lyfr llun a stori ar gyfer darllenwyr ifanc rhwng 5 a 8 oed. Tra’n trafod dau lyfr cyntaf cyfres Cadi gyda disgyblion yr ysgol awgrymodd Tyler y byddai’n syniad da i Cadi fynd i fyd y deinosoriaid – a chael ei llyncu, a dyna oedd yr hadyn berodd i Bethan Gwanas fynd ati i ysgrifennu’r llyfr. Ym mlwyddyn dau yr oedd Tyler ar y pryd, ac erbyn hyn mae ym mlwyddyn pedwar.  darllen mwy

Grav yn dal i ysbrydoli ddegawd ers ei golli

Grav yn dal i ysbrydoli ddegawd ers ei golli

Dros ddegawd ers colli Grav, mae’r cof a’r parch iddo mor amlwg ag erioed, gyda llyfr newydd yn cael ei gyhoeddi o’r enw Storis Grav. Yr hyn a ysbrydolodd Rhys Meirion i gofnodi llyfr o Storïau am Ray Gravell oedd y ffaith ei fod dal yn gymaint o destun sgwrs, a bod gan bawb eu ‘stori Grav’.  darllen mwy

Elliw Gwawr yn annog bwyta'n iach gyda'r teulu cyfan
Ffeithiau a syniadau fydd yn newid eich bywyd am byth - y llyfr Cymraeg cyntaf am 'freakonomics'
241-260 o 373 1 . . . 12 13 14 . . . 19
Cyntaf < > Olaf