Adolygiadau
Mae ffraethineb yr awdur yn heintus a'i allu i ddychanu yn taro i'r dim.
- Ioan Kidd
Dyma inni unwaith yn rhagor y cyfuniad a welwn yn holl nofelau Robat Gruffudd, dealltwriaeth o'r sgôr wleidyddol a diwylliannol yng Nghymru ynghyd â stori sy'n cydio'n syth ac yn gyrru ymlaen â sicrwydd. Nid ydym byth yn gwybod beth a wneir nesaf gan yr un o'r pedwar prif gymeriad, ond pan ddaw mae'n argyhoeddi. Mae yma naws y foment, un o brif hanfodion ffuglen, a'r dialog yn fyw mewn sawl tafodiaith.
Darllenwch yr adolygiad: https://glynadda.wordpress.com/2024/04/18/peidio-dweud-peidio-goyn/
- Dafydd Glyn Jones, Blog Glyn Adda
Mae'r stori'n cynnig cyfle i Robat Gruffudd arfer ei ddoniau dychanol a'i ffraethineb i'w heithaf.
- Aled Evans, Cylchgrawn Barn
Ni chewch eich siomi wrth droi tudalennau 'Gobaith Mawr y Ganrif' ac yn britho'r cyfan ceir islais o dynnu blew o drwyn llawer o sefydliadau cenedlaethol Cymru a'r unigolion sy'n gweithio iddynt.
- D. Ph. Davies, Papur Pawb
Beth yw'r Cymraeg am 'laugh out loud?' Hynna yw e!
- Tim Hartley, X
Clincar o nofel ddifyr.
- Ion Thomas, X
Nofel ddarllenadwy berffaith i'r haf yw hon, sy'n symud yn gyflym, gydag ergydion brathog a choeglyd yn cael eu tanio at grachach Cymraeg y brifddinas.
- Arwel Vittle, Y Cymro
Returning to Caernarfon in the present day from Cardiff in 2008, it's safe to say that Welsh language literature is very much alive and kicking in 2024. Not a novel to miss!
- Ant evans, Nation Cymru