Teyrnged i un o fawrion y genedl: yr amaethwr, y canwr a'r cyflwynydd Dai Jones gan y bobl oedd yn ei nabod ef orau.
Roedd golygydd y gyfrol hon, Beti Griffiths, yn ffrind agos i Dai ac ynghyd â'i weddw, Olwen, maen nhw wedi llunio rhestr o gyfranwyr amrywiol sy'n cynnwys enwu adnabyddus fel Yr Athro Wynne Jones, Nia Roberts a Margaret Williams.
Yn denor medrus enillodd Dai Jones wobrau y Rhubam Glas a Canwr y Flwyddyn yn 1970 ac aeth ymlaen i gyflwyno Siôn a Siân a Cefn Gwlad ar S4C. Trwy eiriau ei ffrindiau a lluniau personol, cewch ddod i adnabod Wncwl Dai, y cobyn bywiog, un drygionus diawchedig... yr unigryw Dai Jones, Llanilar.
Yn ystod ei yrfa fe dderbyniodd anrhydeddau lu ac er ei statws fel ffigwr cenedlaethol fe arhosodd yn ddyn ei filltir sgwâr. Cyfarfu ei wraig Olwen mewn cystadleuaeth da godro yn Nhrawscoed. Priododd y cwpl ar 22 Hydref 1966 ac mae ganddynt fab, John. Bu farw yn 78 mlwydd oed yn ei gartref yn Llanilar.