Chwalu Pen
Llyfr o gwestiynau cyfres gwis panel radio 'Chwalu Pen' (a chwestiynau ychwanegol newydd) ble mae gair ar hap yn gliw i lythrennau cyntaf pob ateb cywir am themâu neu bynciau arbennig. Ceir stôr o gwestiynau hwyliog ymwneud â llu o wahanol feysydd, sy'n gyfle i brofi gwybodaeth ac i brocio cof y darllenwyr - yr ifanc a'r hen fel ei gilydd.