50 Pobol y Cwm - Dathlu'r 50 drwy atgof a llun
Wrth i Pobol y Cwm ddathlu carreg filltir bwysig yn ei hanes dyma gyfrol sy'n rhannu atgofion a straeon rhai o'r bobl sydd wedi gweithio ar y gyfres, yn gast a chriw. Ceir yma gyfraniadau gan rai o'r actorion oedd yna ar y dechrau megis Lisabeth Miles a Gillian Elisa yn ogystal ag argraffiadau aelodau mwy diweddar o'r cast megis Andrew Teilo. Law yn llaw â'r atgofion mae lluniau o archif y gyfres.