Mae i sawl stori dda atgyfodiad, a dyma gyfres Ysgrifau Beirniadol wedi'i hatgyfodi mewn gwisg ychydig yn wahanol i'r hyn a fu.
Yr un yw ei bwriad yn y bôn, sef trafod llên a diwylliant Cymru, ond â golwg sy'n ehangach, ar eu cyd-destunau Cymreig a byd-eang. A dyna welir yn chwe ysgrif a darnau beirniadol Gweddnewidiadau: craffu ar ffigyrau, testunau, ac agweddau ar lenyddiaeth a diwylliant Cymru mewn amryw ffyrdd.
Felly, os hoffech wybod mwy am y berthynas bosib rhwng llenyddiaeth ganoloesol Cymru a Sbaen, am gefndir cyfrol gyntaf Gwasg Prifysgol Cymru, pam bod swyddi cyfieithu heddiw yn swyddi 'cachu rwtsh' ym marn ambell un, a'r sylw newydd a roddir i rai o'n prif lenorion a meddylwyr Cymraeg modern (Morgan Llwyd, Rhiannon Davies Jones, Islwyn Ffowc Elis a Tony Bianchi), dyma'ch cyfle. Bydd modd ichi hefyd ddysgu mwy am hanes sefydlu cylchgrawn cyfoes, poblogaidd Cymru, Cara, am waith trosi dramâu Saunders Lewis i'r Bwyleg, a'r dylanwadau llenyddol ar Y Delyn Aur, ynghyd â chlywed cyfweliad diddorol, a dadlennol, rhwng Ysgrifau Beirniadol a Mihangel Morgan.
Dyma atgyfodiad Ysgrifau Beirniadol; dyma'r Gweddnewidiadau.