Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o 'Ymdopi ag Amhariad Gwybyddol Ysgafn (MCI)' gan Mary Jordan
Llun o\'Ymdopi ag Amhariad Gwybyddol Ysgafn (MCI)\'
ISBN: 9781800996564
Pris: £14.99
Cyfrwng: Clawr Meddal
Iaith: Cymraeg
Nifer y tudalennau: 237

Ymdopi ag Amhariad Gwybyddol Ysgafn (MCI)

E-lyfr (EPUB)£13.99

Mae mwy a a mwy o oedolion yn derbyn diagnosis o Amhariad Gwybyddol Ysgafn (MCI), ac mae'r llyfr hwn yn cyflwyno strategaethau i helpu unigolion pryderus i arafu dechrau'r cyflwr. Mae Tua 50% o oedolion ag MCI yn mynd ymlaen i ddatblygu dementia, ond mae ymchwil yn dangos y gall hunangymorth drwy ymyrraeth gynnar a mesurau ataliol arafu hyn yn sylweddol.
Mae'r mesurau hunangymorth yn y llyfr hwn yn cynnwys cymhorthion cof, newidiadau i ffordd o fyw ac iechyd, gweithgareddau, therapïau a chymhorthion technolegol. Mae'n hysbys bod pob un ohonyn nhw'n gwella gwybyddiaeth a bod modd eu cynnwys ym mywyd bob dydd unigolyn. Mae pob mesur wedi'i seilio'n gadarn ar ymchwil gyfredol, ac mae'r llyfr hwn hefyd yn berthnasol i'r rhai â dementia cyfnod cynnar sy'n dymuno oedi amhariad gwybyddol mwy difrifol.
O ystyried pwysigrwydd allweddol ymyrraeth gynnar wrth atal amahraid gwybyddol rhag gwaethygu, mae darllen y llyfr hwn yn hanfodol i unrhyw unigolyn hŷn sydd eisiau'r strategaethau gorau i helpu'n ymarferol gyda hynny.

ISBN: 9781800996564
Pris: £14.99
Cyfrwng: Clawr Meddal
Iaith: Cymraeg
Nifer y tudalennau: 237