Cyfres Amdani: Dail Te
Nofel newydd i ddysgwyr lefel Sylfaen gan yr awdur, Mared Lewis. Dydy Sara ddim eisiau dweud celwydd wrth Terry, ei gŵr. Ond mae pethau'n anodd ers iddo golli ei waith. Un diwrnod, mae hi'n gweld hysbyseb yn y siop ac mae hi'n cael syniad. Mae hi'n cofio am Nain oedd yn darllen dail te. Mae Sara yn newid i Serena, ond all hi newid ei bywyd er gwell? Rhan o gyfres 'amdani' i ddysgwyr.