Celwydd Noeth
Mae Celwydd Noeth yn ddilyniant i Heb Law Mam. Cawn rhagor o hanes Efa sydd bellach ym mlwyddyn 10. Mae ei mam oedd yn dioddef o gancr yn y nofel gyntaf wedi gwella. Cawn hanes Cai a hi, hanes y tîm rygbi merched, drygioni arferol ar lawr y dosbarth, ailgwrdd ag ambell gymeriad o'r nofel gyntaf a datblygu themâu fel secstio, peryglon ar y we, hunaniaeth, pwysau pobl ifanc a pherthyn.