Dyma'r drydedd gyfrol yng nghyfres Gofal ein Gwinllan ac mae'n trafod y rhai a gyfrannodd at weithgaredd yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, ac yn arbennig at ei Chymreictod, yn ail a thrydydd chwarter y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er i dwf aruthrol Ymneilltuaeth neu 'grefydd y capel' a sgandal Brad y Llyfrau Gleision andwyo tystiolaeth yr Eglwys ar y pryd, nid dyna'r stori i gyd. Cawn ddarllen yma am ymdrechion esgobion goleuedig fel Alfred Ollivant a Connop Thirlwall o blaid y Gymraeg, am Jane Williams 'Ysgafell' a amddiffynnodd y werin yn wyneb cyhuddiadau'r comisiynwyr addysg, ac am ymgyrchoedd tanbaid clerigwyr Cymraeg Swydd Efrog i sicrhau penodi esgobion brodorol yng Nghymru. Dysgwn hefyd am gyfraniad addysgwyr fel y ddau John Williams o Ystradmeurig, yr hynafiaethydd Ab Ithel, y geiriadurwr Daniel Silvan Evans, y Cymro Isaac Williams a oedd yn un o arloeswyr Mudiad Rhydychen yn Lloegr, John Hughes archddiacon Ceredigion, y llenorion Nicander, Glasynys ac Elis Wyn o Wyrfai, ynghyd â hanes datblygiad yr emyn oddi mewn i'r eglwysi yn ystod Oes Victoria.