World War Two: Voices From Wales
Hanes llafar cyfareddol, sy'n casglu atgofion personol y Cymry am ddigwyddiadau D-Day, Kindertransport, y Gwarchodlu Cartref, Byddin Dir y Menywod, cyrchoedd bomio, dianc o wersyll carcharorion rhyfel a mwy. Wedi'i gyhoeddi i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE, mae'n cwmpasu profiadau pobl Cymru yn ystod y rhyfel.