Sesiwn lofnodi gyda Lee Byrne yn WHSmith Caerdydd
Dewch
draw i WHSmith Caerdydd ar ddydd Iau 16 Tachwedd rhwng 11 a 2 o'r
gloch ar gyfer sesiwn lofnodi gyda Lee Byrne a'i hunangofiant newydd
sbon, The Byrne Identity.
Dyma
hunangofiant gonest a grymus Lee Byrne, a fagodd wytnwch ar ystad dai
arw ym Mhenybont ac ar safleoedd adeiladu yn yr ardal, cyn cyrraedd
uchelfannau'r byd rygbi yng Nghymru a chyda'r Llewod. Dyma stori un o
dalentau llachar rygbi Cymru yn y cyfnod modern.