Addasiad "llawn gobaith" ar gyfer yr arddegau cynnar gan Caryl Lewis
Meinir Wyn Edwards sydd wedi addasu’r gyfrol hon yn ogystal â chyfrol gyntaf Caryl Lewis â Macmillan, sef Hedyn. Meddai Meinir Wyn Edwards:
“Mae Caryl Lewis wedi llwyddo unwaith eto i greu byd hudolus, llawn dychymyg ar gyfer plant. Mae hi wedi bod yn fraint aruthrol i addasu Haf o Hud.”
Disgrifir Haf o Hud yn nofel sy’n “codi calon ac yn llawn gobaith,” gan yr awdur Katherine Woodfine.
Meddai Caryl Lewis:
‘Pleser pur oedd gweithio gyda Meinir wrth iddi addasu Haf o Hud. Dwi wrth fy modd y bydd plant Cymru yn cael dod i adnabod Abi a’i thad. Mae hi’n stori am deulu ac am yr hud sydd i’w ddarganfod yn y llefydd mwya di- nod. Dwi’n credu bod angen ychydig bach o hud yn y byd sydd ohoni!’
Ar ôl trychineb o sioe, mae tad Abi yn penderfynu gadael y byd hud a lledrith. Roedd mam Abi yn gonsuriwr o fri. Ond mae hi wedi mynd, a dyw pethau ddim yr un fath. Ond un diwrnod daw Abi o hyd i hen lyfr swynion ei mam sy’n dod â llawenydd a rhyfeddodau i’r gymuned gyfan. Dyma stori ryfeddol am bŵer cymuned, sy’n rhoi cyfle i bawb serennu.