Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Ail lyfr Manawydan gan enillydd Gwobr Tir na n-Og 2023

Yr wythnos hon mae Alun Davies yn cyhoeddi nofel newydd, Manawydan: Y Twrch Trwyth, yn yr un gyfres â Manawydan Jones: Y Pair Dadeni a enillodd wobr Tir na n-Og y llynedd. Dilyna’r ail nofel helyntion y prif gymeriad mud, Manawydan, sy’n ddisgynnydd i un o gymeriadau enwog y Mabinogi – Manawydan Fab Llŷr.

Dywedodd Alun Davies, “Dwi'n hynod o gyffrous i bawb gael darllen rhan nesaf stori Manawydan Jones. Roedd yn grêt cael mynd nôl i fyd y Cyfeillion a’r Marchogion unwaith eto, a dod â darn gwahanol o'r Mabinogi yn fyw. Edrychwch ymlaen at gwrdd â chymeriadau hen a newydd, yn ogystal â brwydro, cynllwynio ac antur sy'n bygwth troi bywyd Manawydan wyneb i waered.”

Daeth y llyfr cyntaf i’r brig yng nghategori uwchradd gwobrau Tir na n-Og yn 2023. Dywed y wefan Sôn am Lyfra am y gyfrol: “Mae'r awdur yn llwyddiannus wrth greu darn o waith ffuglen sy'n troedio tir ffantasi, hud a lledrith ac antur arallfydol, ond sydd wedi ei wreiddio ym mywyd arferol bob dydd... Mae arddegwyr heddiw yn cael eu sboilio!”

Yn Manawydan Jones: Y Twrch Trwyth mae Manawydan bellach yn byw’n fodlon ei fyd ar Ynys Fosgad ymysg y Cyfeillion a’i ffrindiau pennaf, Alys a Mogs. Ond daw si ar led bod Gweuflyn, arweinydd y Marchogion, yn ceisio creu fersiwn cyfoes o’r Twrch Trwyth er mwyn achosi dinistr ac anrhefn ar hyd a lled y wlad. Daw’r Cyfeillion at ei gilydd i geisio ei atal sy’n arwain at gyffro, brad a thollti gwaed.

Dyma nofel hawdd i'w darllen ar gyfer pobl ifanc sy’n rhoi gwedd newydd ar straeon a chymeriadau’r Mabinogi. Mae hi’n nofel ffantasi, hud a lledrith, lawn antur sydd wedi’i gwreiddio ym mywyd arferol bob dydd. Hawdd iawn yw uniaethu â Manawydan a’i ffrindiau er gwaethaf yr holl ddirgelwch arallfydol.

i
X

Mae'r wefan hon yn defnyddio briwsion.

Er mwyn cynnig y profiad pori gorau i chi, rydyn ni'n arbed briwsion ar eich peiriant. Gallwch ddileu neu analluogi briwsion os hoffech, ond ni fydd y wefan yn gweithio hebddynt. Drwy ddefnyddio'r wefan yr ydych yn derbyn y cawn ddefnyddio briwsion. Gallwch ddarllen mwy am ein polisi briwsion yma.

Derbyn
Gosodiadau

Mae'r wefan hon yn defnyddio briwsion.

Mae rhai o'r briwsion yma yn angenrheidiol, tra bo eraill yn ein cynorthwyo i wella eich profiad drwy daflu goleuni ar sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio. Cliciwch Derbyn i dderbyn y gosodiadau a'u hargymhellir. Mae mwy o wybodaeth yn ein polisi briwsion yma.

Derbyn

Briwsion Angenrheidiol

Mae briwsion angenrheidiol yn galluogi gweithrediad craidd y wefan. Ni all y wefan weithio'n iawn heb y rhain. Gallwch ddiffodd y rhain drwy newid dewisiadau eich porwr ond bydd hyn yn amharu ar allu'r wefan i ddarparu profiad cyson wrth bori, e.e. o ran cofio eich bod wedi mewngofnodi ac ati.


Briwsion Dadansoddi

Mae briwsion dadansoddi defnydd yn ein cynorthwyo i wella ein gwefan drwy gasglu gwybodaeth am natur y defnydd sy'n cael ei wneud o'r wefan. Dim ond gwybodaeth gyfansymiol neu ystadegol sy'n cael ei chasglu drwy hyn, ac nid oes unrhyw ddata personol yn cael ei gasglu.


Briwsion Cymdeithasol

Mae briwsion cymdeithasol yn ein caniatáu i ddangos ein botymau a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Mae'r ffrydiau yn cynnig y gallu i ymateb, hoffi a rhannu negeseuon yn uniongyrchol o'n gwefan, ac er mwyn gwneud hyn, maent yn deffnyddio briwsion Trydydd Parti.