Atgofion adfywio'r ddawns werin yng Nghymru dros gyfnod o 60 mlynedd
Yr wythnos hon, cyhoeddir cyfrol ddwyieithog am atgofion Mavis Williams-Roberts a fu’n dawnsio gwerin yn frwd am 60 mlynedd gan hefyd gyfrannu at adfywio’r ddawns yng Nghymru. Mae Welsh Folk Dance Recollections / Atgofion Dawnsio Gwerin Cymreig hefyd yn cynnwys rhan o luniau lliw ac esiamplau o ddawnsiau a gyfansoddwyd ganddi.
Cafodd Mavis Williams-Roberts ei magu yn Ninbych-y-Pysgod, Sir Benfro, a bu iddi ddechrau dawnsio gwerin Cymreig ym 1960 tra’n fyfyriwr gwyddoniaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe. Gyda thîm dawnsio gwerin y Brigysgol, cymrodd ran mewn nifer o nosweithiau llawen ynghyd â chystadlu yn yr Eisteddfod Rhyng-gol, Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen.
Meddai Mavis Williams-Roberts:
“Pan ddes i’n ymwybodol o ddawnsio gwerin yng Nghymru am y tro cyntaf, doedd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru ddim ond yn un ar ddeg mlwydd oed. Erbyn y cyfnod hwn, roedd dawnsiau traddodiadol Cymru ar goll neu bron wedi diflannu. Roedd cryn ymchwil yn digwydd i geisio eu hadfer ond nid oeddwn yn sylweddoli ar y pryd pa mor agos oeddem, fel cenedl, i’w colli’r traddodiad yn gyfan gwbl.
Yn Atgofion Dawnsio Gwerin Cymreig hoffwn rannu gyda chi ambell atgof am y bobl hynny a’m dysgodd i, a fu’n gymaint o ddylanwad arnaf ac yn wir, a’m hysgogodd, ymhen amser i gyfansoddi fy nghasgliad o ddawnsiau fy hun. Bydd y casgliad llawn yn cael ei gyhoeddi mewn llyfryn ar wahân.”
Mae’r gyfrol yn rhannu atgofion a chyfraniadau pobl fel Löis Blake (1890-1974), Gwennant Gillespie (1910 – 2013), Austen Goodman (bu farw 1979/80), Alice E Williams (Alys Brynrefail, 1925-2020), Jessie Williams (1902-2002), Margaretta Thomas (1880-1972) a’i merch, Dr Ceinwen Thomas (1911-2008) a Patrick Noel Shuldham Shaw (1917-1977).
Cofnoda’r llyfr hefyd yn uchafbwyntiau Mavis o’i chwedeg mlynedd yn dawnsio gwerin Cymreig ynghyd ag esbonio hanes a chywreinrwydd ambell i ddawns, gan restru a rhoi gwybodaeth am y dawnsfeydd a chyfansoddwyd ganddi.
Yn ei Rhagymadrodd, dywed Nia, merch Mavis:
“Wrth i mi dyfu i fyny des i’n fwy ymwybodol o’r cyfoeth o brofiadau a gwybodaeth roedd fy mam wedi’u gronni. Rwyf wrth fy modd fod y llyfr hwn yn llwyddo i ddal ychydig bach o’r tapestry cyfoethog o wybodaeth a chreadigedd sydd ym mhen Mam, a gobeithio y bydd yn profi’n ysbrydoliaeth i’r genhedlaeth nesaf o ddawnswyr.”