Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Awdur a aned yn Nhregaron yn clodfori hanes y fro mewn cyfrol newydd ar gyfer yr Eisteddfod

Ganed yr awdur, D. Ben Rees, yn Nhregaron, a magwyd ef yn Llanddewi Brefi. Mae’n adnabyddus fel awdur toreithiog yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae’n un o bregethwyr amlycaf ei enwad. Mae’n byw yn Lerpwl ers 1968.

Ond er iddo fudo, gellid honni mai dyn ei filltir sgwâr ydyw yn dal i fod. Yn y gyfrol hon, Hanes Tregaron a’r Cyffiniau, aiff ati i gyflwyno rhai o unigolion mwyaf lliwgar y fro – rhai’n enwogion, eraill yn llai adnabyddus, ond pawb yn cyn ddifyrred â’i gilydd. Ceir yma enwau sy’n canu cloch, megis Ambrose Bebb, Cassie Davies, Joseph Jenkins, a chymaint mwy. Ond yn ogystal â’r bobl, teflir y chwyddwydr ar y pentrefi cyfagos hefyd, o Lanilar i Lanfair Clydogau, o Fronnant i Fetws Bledrws.

Meddai D Ben Rees:

“Roedd rhai o’r bobl a fagwyd yn Nhregaron a’r cyffiniau yn enwau cyfarwydd yn hanes Cymru fel Henry Richard a W. Ambrose Bebb. Roedd eraill yn llawer llai adnabyddus, fel fy nhad-cu, William Rees. Ond yn ei ddydd, [roedd] yn gymeriad cofiadwy a gweithgar yn y dref. Lluniais gofnodau am bobl a gofiwn yn Nhregaron, Llangeitho, Berth, Swyddffynnon a Llanddewi Brefi, yn arbennig ffrindiau ysgol a chapel a ffrindiau’r cae chwarae.”

Mae’r newyddiadurwr Huw Edwards wedi talu teyrnged i’r awdur am ei gamp yn rhagair y gyfrol. Meddai:

“Prin bod rhaid imi ddweud mai Ben, yn ôl pob tebyg, yw’r person mwyaf cymwys i lunio cyfrol bwysig fel hon i ddathlu dyfodiad y Brifwyl i’w ardal enedigol. I’r sawl sy’n adnabod perfedd Ceredigion yn dda, cewch hyd i drysorau newydd rhwng y cloriau. I’r sawl sy’n ymweld am y tro cyntaf, cewch y fraint o werthfawrogi cymeriad arbennig yr hen Sir Aberteifi.”

Mae Hanes Tregaron a’r Cyffiniau gan D. Ben Rees ar gael nawr (£14.99, Y Lolfa).

 

i
X

Mae'r wefan hon yn defnyddio briwsion.

Er mwyn cynnig y profiad pori gorau i chi, rydyn ni'n arbed briwsion ar eich peiriant. Gallwch ddileu neu analluogi briwsion os hoffech, ond ni fydd y wefan yn gweithio hebddynt. Drwy ddefnyddio'r wefan yr ydych yn derbyn y cawn ddefnyddio briwsion. Gallwch ddarllen mwy am ein polisi briwsion yma.

Derbyn
Gosodiadau

Mae'r wefan hon yn defnyddio briwsion.

Mae rhai o'r briwsion yma yn angenrheidiol, tra bo eraill yn ein cynorthwyo i wella eich profiad drwy daflu goleuni ar sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio. Cliciwch Derbyn i dderbyn y gosodiadau a'u hargymhellir. Mae mwy o wybodaeth yn ein polisi briwsion yma.

Derbyn

Briwsion Angenrheidiol

Mae briwsion angenrheidiol yn galluogi gweithrediad craidd y wefan. Ni all y wefan weithio'n iawn heb y rhain. Gallwch ddiffodd y rhain drwy newid dewisiadau eich porwr ond bydd hyn yn amharu ar allu'r wefan i ddarparu profiad cyson wrth bori, e.e. o ran cofio eich bod wedi mewngofnodi ac ati.


Briwsion Dadansoddi

Mae briwsion dadansoddi defnydd yn ein cynorthwyo i wella ein gwefan drwy gasglu gwybodaeth am natur y defnydd sy'n cael ei wneud o'r wefan. Dim ond gwybodaeth gyfansymiol neu ystadegol sy'n cael ei chasglu drwy hyn, ac nid oes unrhyw ddata personol yn cael ei gasglu.


Briwsion Cymdeithasol

Mae briwsion cymdeithasol yn ein caniatáu i ddangos ein botymau a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Mae'r ffrydiau yn cynnig y gallu i ymateb, hoffi a rhannu negeseuon yn uniongyrchol o'n gwefan, ac er mwyn gwneud hyn, maent yn deffnyddio briwsion Trydydd Parti.