Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Bom Arwisgo’r Tywysog Charles wedi’i gwneud gan ‘Barnes Wallis Cymru’

Cafodd bom ei gwneud allan o diwb Horlicks mewn ymgais i atal arwisgiad y Tywysog Charles yng Nghaernarfon gan ddyn oedd yn cael ei adnabod fel “Barnes Wallis” Cymru. Ond ni achosodd y ddyfais – a grëwyd i ryddhau’r Cymry o “ormes y Sais” – fawr o ddifrod pan gafodd ei phrofi, gan orfodi Byddin Rhyddid Cymru (FWA) a’i harweinydd lliwgar, Cayo Evans i ailfeddwl eu cynllun.

Mae’r hanesyn, sy’n cael ei adrodd gan y newyddiadurwr Lyn Ebenezer, yn ymddangos mewn llyfr newydd o’r enw Charles and the Welsh Revolt gan yr awdur Arwel Vittle. Mae’r llyfr yn archwilio’r dechrau ffrwydrol i yrfa frenhinol y Brenin Siarl III a sut, yn ôl cenedlaetholwyr, y mae’r “traddodiad brenhinol gormesol wedi bod yn falltod ar y genedl ers canrifoedd” ers i Edward I ddiorseddu Tywysog brodorol olaf Cymru, Llywelyn ap Gruffudd yn 1282.

Mae Lyn Ebenezer yn cofio teithio i ardal anghysbell gyda Cayo yn y cyfnod cyn yr arwisgo brenhinol.

“Yno roedd tua ugain o fechgyn yr FWA yn profi bom newydd,” meddai Ebenezer. “Roedd y bom wedi ei wneud allan o diwb Horlicks ac roedd y dyn wnaeth y bom yn byw yn Llangollen. Cyflwynodd Cayo ef fel ‘Barnes Wallis Cymru’, y mae ei fom yn mynd i’n rhyddhau o ormes y Sais.”

Peiriannydd a dyfeisiwr o Loegr oedd Barnes Wallis, sy’n fwyaf adnabyddus am ddyfeisio’r bom ‘bownsio’ a ddefnyddiwyd gan yr Awyrlu Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wrth gofio’r bom oedd yn cael ei brofi, mae Ebenezer yn cofio cuddio tu ôl i wal gerrig.

“Ac ro’n ni i gyd tu ôl y wal nawr a dyma fi’n gweld y mwg yn mynd mewn i’r wal i’r bom, ac wedyn mewn ychydig eiliadau sŵn: ‘Ffftt.’ Cododd cwmwl o fwg ond symudwyd dim un garreg! Roedd defaid yn dal i bori a chododd dim un ohonyn nhw’u pennau chwaith.”

“A dw i’n cofio’n iawn beth wedodd Cayo: ‘F**k it, boys - back to the drawing board!”

Ymddangosodd yr FWA yn gyhoeddus am y tro cyntaf mewn protest yn 1965 yn erbyn adeiladu cronfa ddŵr Llyn Celyn. Ond canlyniad campau’r FWA oedd tynnu sylw oddi wrth y “bomwyr go iawn” sef MAC,  dan arweiniad John Jenkins a gafodd ei radicaleiddio gan foddi Cwm Tryweryn.

Cafodd y cenedlaetholwr Cymreig a’r milwr yn y Fyddin Brydeinig ei garcharu am 10 mlynedd am drefnu ffrwydradau mewn ymgyrch yn erbyn yr arwisgiad.

Mae John Jenkins, a fu farw’n ddiweddar, yn cael ei ddyfynnu yn y llyfr yn dweud: “Sut ddiawl ydych chi’n disgwyl i bobl ddathlu eu concwest eu hunain?” Ychwanegodd: “Yr unig ffordd i gael eich clywed yw codi stŵr. Ac mae’n rhaid i chi godi stŵr sy’n creu bygythiad credadwy.”

Dywedodd yr awdur Arwel Vittle: “Roedd y chwedegau yn gyfnod llawn tyndra nid yn unig gyda’r ymgyrch fomio, ond hefyd protestiadau di-drais a ralïau mawr Cymdeithas yr Iaith a Phlaid Cymru yn cael ei llwyddiannau etholiadol cyntaf. Roeddwn am edrych ar yr hyn a achosodd yr adwaith eithafol hwn ynghylch yr Arwisgo, a oedd hi’n werth ymgyrchu mor galed yn erbyn y peth, ac a allai’r cyfan ddigwydd eto.”

Dywedodd yr awdur llyfrau hanes poblogaidd, gan gynnwys I’r Gad, hanes ffotograffig protestiadau iaith, a Valentine, cofiant i Lewis Valentine: “Ro’n i’n meddwl y byddai’n ddiddorol edrych ar flynyddoedd ffurfiannol Charles ym mywyd cyhoeddus fel Tywysog, a ddechreuodd mewn modd reit ffrwydrol, oherwydd awyrgylch gwleidyddol Cymru’r chwedegau, a oedd yn danbaid a dweud y lleiaf.

“Gyda Charles yn dod yn Frenin, roeddwn i eisiau ysgrifennu llyfr hanes poblogaidd a oedd yn ddarllen difyr yn ogystal â rhoi gwybodaeth.

“Roedd yn dda clywed o lygad y ffynnon sut brofiad oedd bod yn rhan o’r cyfnod –oherwydd doedd llawer ddim wedi siarad o’r blaen am eu profiadau– yn enwedig o ran gweithgaredd yr heddlu cudd – yn wir cymharodd Saunders Lewis y sefyllfa yng Ngwynedd ar y pryd i wladwriaeth plismyn fel yr hen Tsiecoslofacia – ac roedd yn ddiddorol codi’r llen ar hynny.”

Cyhoeddir Charles and the Welsh Revolt gan Y Lolfa ac mae ar gael i’w brynu ar-lein ac yn eich siop lyfrau leol (£9.99)

i
X

Mae'r wefan hon yn defnyddio briwsion.

Er mwyn cynnig y profiad pori gorau i chi, rydyn ni'n arbed briwsion ar eich peiriant. Gallwch ddileu neu analluogi briwsion os hoffech, ond ni fydd y wefan yn gweithio hebddynt. Drwy ddefnyddio'r wefan yr ydych yn derbyn y cawn ddefnyddio briwsion. Gallwch ddarllen mwy am ein polisi briwsion yma.

Derbyn
Gosodiadau

Mae'r wefan hon yn defnyddio briwsion.

Mae rhai o'r briwsion yma yn angenrheidiol, tra bo eraill yn ein cynorthwyo i wella eich profiad drwy daflu goleuni ar sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio. Cliciwch Derbyn i dderbyn y gosodiadau a'u hargymhellir. Mae mwy o wybodaeth yn ein polisi briwsion yma.

Derbyn

Briwsion Angenrheidiol

Mae briwsion angenrheidiol yn galluogi gweithrediad craidd y wefan. Ni all y wefan weithio'n iawn heb y rhain. Gallwch ddiffodd y rhain drwy newid dewisiadau eich porwr ond bydd hyn yn amharu ar allu'r wefan i ddarparu profiad cyson wrth bori, e.e. o ran cofio eich bod wedi mewngofnodi ac ati.


Briwsion Dadansoddi

Mae briwsion dadansoddi defnydd yn ein cynorthwyo i wella ein gwefan drwy gasglu gwybodaeth am natur y defnydd sy'n cael ei wneud o'r wefan. Dim ond gwybodaeth gyfansymiol neu ystadegol sy'n cael ei chasglu drwy hyn, ac nid oes unrhyw ddata personol yn cael ei gasglu.


Briwsion Cymdeithasol

Mae briwsion cymdeithasol yn ein caniatáu i ddangos ein botymau a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Mae'r ffrydiau yn cynnig y gallu i ymateb, hoffi a rhannu negeseuon yn uniongyrchol o'n gwefan, ac er mwyn gwneud hyn, maent yn deffnyddio briwsion Trydydd Parti.