“Camp Lawn” Llyfr y Flwyddyn i’r Lolfa
Yn ogystal â dathlu
pen-blwydd y cwmni yn 50 oed bu 2017 yn flwyddyn ragorol i’r Lolfa o ran
cyhoeddi gyda chwech o lyfrau’r cwmni yn cael eu dewis ar restr fer Gwobr Llyfr
y Flwyddyn. O’r tri llyfr ar y rhestr fer yn y categorïau Ffeithiol Creadigol a
Ffuglen, cyhoeddwyd y cyfan gan Y Lolfa.
Dywedodd Garmon Gruffudd
ar ran Y Lolfa:
“Roedd y llynedd yn
flwyddyn arbennig iawn i ni fel gwasg ond mae’r diolch i gyd i’r awduron. Mae
yna sawl campwaith ar y rhestr eleni, sy’n cynnwys llyfrau sydd wedi bod ar
waith ers blynyddoedd maith. Yn sicr mae’r llyfrau a’r awduron yma yn haeddu pob
clod a sylw phosib.”
Dyma restr lawn o’r
llyfrau sydd ar y rhestr fer:
Ffeithiol
Greadigol
Meddyginiaethau Gwerin
Cymru gan Anne Elizabeth Williams
Cyfrol hynod ddifyr yn
cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am feddyginiaethau gwerin, sy’n ffrwyth llawer o
ymchwil fanwl ym mhob ardal yng Nghymru.
Ar Drywydd Niclas y Glais
gan Hefin Wyn
Dyma'r cofiant cyflawn
cyntaf i Niclas y Glais, (T. E. Nicholas, 1879-1971), y Comiwnydd a'r Cristion o
ardal y Preseli.
Blodau Cymru gan Goronwy
Wynne
Cyflwyniad cynhwysfawr,
darluniadol i flodau a phlanhigion Cymru ynghyd â chynefinoedd, ecoleg, hanes a
nodweddion y planhigion.
Ffuglen
Gwales gan Catrin
Dafydd
Mae Brynach Yang am orffen
popeth. Ac mae’n mynd i’w wneud e. Heno. Ond beth fydd yn digwydd i Gymru wedyn?
Mae ymgyrch Gwales ar fin dechrau ar siwrne gythryblus... a Brynach sy’n arwain
y chwyldro...
Fabula gan Llŷr Gwyn
Lewis
Buenos Aires, Rhufain,
Dulyn, Barcelona, Kyoto, Aberystwyth a Bro Morgannwg: rhai o’r llefydd lle mae
gwyfynod y gyfrol hon yn hedfan iddynt gan hofran yn y trwch adain gwybedyn sydd
rhwng hanes a stori. Ym myd y fabula, gall ffuglen droi’n wirionedd, a ffaith yn
freuddwyd.
Hen Bethau Anghofiedig gan
Mihangel Morgan
Mae gan Merfyn stori
iasoer i’w rhannu, un sy’n dechrau gydag etifeddu clamp o dy ar ôl ei fodryb, yr
awdures enwog Mona Moffat. Mae ef a’i bartner, Harry, yn breuddwydio am
adnewyddu’r hen le ac ymddeol a bywyd gwyllt dinas Llundain... ond wrth i Merfyn
godi’r clawr ar orffennol ei deulu mae gwirioneddau erchyll yn bygwth eu rhewi
hyd at fêr eu hesgyrn. Stori ysbryd iasoer gan un o awduron mwyaf poblogaidd
Cymru.