Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyhoeddi cyfrol Diwrnod y Llyfr arbennig - yn Gymraeg!

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o gadarnhau bod cyfrol arbennig i ddathu Diwrnod y Llyfr am gael ei chyhoeddi yn Gymraeg am y tro cyntaf erioed.

Bydd Na, Nel! Un Tro... gan Meleri Wyn James, sydd yn cynnwys lluniau deniadol John Lund, yn cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa ar gyfer dathliadau Diwrnod y Llyfr ar 1 Mawrth 2018. Fe fydd y llyfr hwn yn rhan o weithgaredd swyddogol Diwrnod y Llyfr, sydd yn derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Waterstones. Hwn fydd y tro cyntaf i lyfr Cymraeg gael ei gynnwys ymhlith y dewis o lyfrau arbennig am £1 sydd yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol fel rhan o’r ymgyrch dros y Deyrnas Unedig.

Mae’n perthyn i’r gyfres boblogaidd Na, Nel! sydd yn cynnwys pum llyfr stori, dyddiadur i annog plant i sgrifennu, a llyfr gweithgareddau.

Dywedodd Angharad Sinclair, Rheolwr Cynlluniau Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru, 'Mae wir yn bleser cael cynnwys llyfr Cymraeg am y tro cyntaf ar gyfer Diwrnod y Llyfr. Dwi’n siŵr y bydd plant ar draws Cymru yn mwynhau darllen am antur nesaf Nel. Mae cyfres Na, Nel! yn boblogaidd tu hwnt ac yn brawf bod cyfresi gwreiddiol yn gallu dal eu tir a gwerthu'n dda.'

Ychwanegodd Garmon Gruffudd, Rheolwr Gyfarwyddwr y wasg, 'Mae’r Lolfa yn falch dros ben o fod yn rhan o’r cynllun arloesol yma. Mae Nel wedi hen ennill ei phlwyf fel un o gymeriadau mwyaf poblogaidd plant Cymru, ac rydym yn gobeithio y bydd y gyfrol newydd hon yn hwb pellach fyth i lwyddiant y gyfres.'

Bydd y llyfr yn dilyn anturiaethau Nel y ferch ddireidus, prif gymeriad y gyfres boblogaidd Na, Nel!. Fe fydd yn cyflwyno hwyl a direidi’r cyfrolau eraill ac yn annog plant i fynd ati i ddarllen gweddill y gyfres. Yn y llyfr newydd fe fydd Nel yn gosod ei hun yng nghanol y stori unwaith eto ac yn mynd o un helynt drygionus i’r llall.

Awdur a golygydd llyfrau yw Meleri Wyn James ac mae wedi cyhoeddi dros 25 o lyfrau i blant, pobl ifanc ac oedolion. Ers 2014 mae wedi bod yn gyfrifol am greu digonedd o anturiaethau o bob math ar gyfer Nel, y ferch fach ddireidus.

'Dwi wrth fy modd yn darllen ac yn ysgrifennu ers fy mod i’n blentyn bach, a nawr dwi wrth fy modd yn darllen gyda fy mhlant fy hun a rhannu straeon cyfres Na, Nel! gyda phlant dros Gymru. Mae’n anrhydedd bod hanes gwreiddiol Nel wedi cael ei ddewis fel y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei gyhoeddi ar gyfer Diwrnod y Llyfr.' meddai Meleri, 'Dwi’n gobeithio y bydd plant yn bachu ar y cyfle i brynu antur ddireidus ddiweddaraf Nel am £1, ac y bydd hyn yn ei dro yn eu hannog i ddarllen mwy o hanesion Nel ac i wledda ar y cyfoeth o lyfrau eraill sydd ar gael yn Gymraeg i blant heddiw.'

Cafodd Diwrnod y Llyfr ei ddynodi gan UNESCO yn ddathliad byd-eang o lyfrau a darllen, ac mae dros 100 o wledydd ledled y byd yn ei ddathlu. Mae Diwrnod y Llyfr yn bartneriaeth o gyhoeddwyr, gwerthwyr llyfrau a grwpiau eraill sy’n gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo llyfrau a darllen er budd personol a mwynhad. Prif nod Diwrnod y Llyfr yn y DU ac Iwerddon yw annog plant i brofi’r pleser a geir o lyfrau a darllen drwy roi’r cyfle iddynt gael eu llyfrau eu hunain.
 
Yn ogystal, bydd cynhyrchiad newydd sbon gan Gwmni Theatr Arad Goch, sef addasiad i’r llwyfan o lyfrau poblogaidd Na, Nel! Meleri Wyn James, yn teithio o gwmpas theatrau Cymru yn ystod haf 2018, gan ddod â’r cymeriadau poblogaidd yn fyw ar y llwyfan am y tro cyntaf. Bydd Na, Nel! Wwww!, sy’n waith gwreiddiol, newydd gan yr awdur, yn teithio i 17 o theatrau ledled Cymru rhwng Mai a Gorffennaf.
 
Fe fydd llyfr gweithgareddau lliwgar newydd, Na, Nel! Waw!, yn cael ei gyhoeddi i gydfynd â’r sioe.
i
X

Mae'r wefan hon yn defnyddio briwsion.

Er mwyn cynnig y profiad pori gorau i chi, rydyn ni'n arbed briwsion ar eich peiriant. Gallwch ddileu neu analluogi briwsion os hoffech, ond ni fydd y wefan yn gweithio hebddynt. Drwy ddefnyddio'r wefan yr ydych yn derbyn y cawn ddefnyddio briwsion. Gallwch ddarllen mwy am ein polisi briwsion yma.

Derbyn
Gosodiadau

Mae'r wefan hon yn defnyddio briwsion.

Mae rhai o'r briwsion yma yn angenrheidiol, tra bo eraill yn ein cynorthwyo i wella eich profiad drwy daflu goleuni ar sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio. Cliciwch Derbyn i dderbyn y gosodiadau a'u hargymhellir. Mae mwy o wybodaeth yn ein polisi briwsion yma.

Derbyn

Briwsion Angenrheidiol

Mae briwsion angenrheidiol yn galluogi gweithrediad craidd y wefan. Ni all y wefan weithio'n iawn heb y rhain. Gallwch ddiffodd y rhain drwy newid dewisiadau eich porwr ond bydd hyn yn amharu ar allu'r wefan i ddarparu profiad cyson wrth bori, e.e. o ran cofio eich bod wedi mewngofnodi ac ati.


Briwsion Dadansoddi

Mae briwsion dadansoddi defnydd yn ein cynorthwyo i wella ein gwefan drwy gasglu gwybodaeth am natur y defnydd sy'n cael ei wneud o'r wefan. Dim ond gwybodaeth gyfansymiol neu ystadegol sy'n cael ei chasglu drwy hyn, ac nid oes unrhyw ddata personol yn cael ei gasglu.


Briwsion Cymdeithasol

Mae briwsion cymdeithasol yn ein caniatáu i ddangos ein botymau a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Mae'r ffrydiau yn cynnig y gallu i ymateb, hoffi a rhannu negeseuon yn uniongyrchol o'n gwefan, ac er mwyn gwneud hyn, maent yn deffnyddio briwsion Trydydd Parti.