Cyhoeddi llyfr Cymraeg am wyddoniaeth flaengar
Er yn boblogaidd yn y byd cyhoeddi Saesneg, mae cyfrolau am wyddoniaeth a thechnoleg gyffredinol yn brin iawn yn y Gymraeg. Yr wythnos hon, cyhoeddir casgliad o ysgrifau am wyddoniaeth ac ymchwil flaengar gan wasg y Lolfa.
Golygwyd Darganfod ac Ysbrydoli: Darlithoedd a Sgyrsiau Gwyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd gan Dr Bryn Hughes Parry. Mae’r gyfrol yn cynnwys detholiad o ddarlithoedd a sgyrsiau yn deillio o Bentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.
Meddai Dr Bryn Hughes Parry sy’n olygydd y gyfrol, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd, 2023:
“Ein nod fel Pwyllgor Gwaith Gwyddoniaeth a Thechnoleg oedd ysbrydoli’r genedl drwy wyddoniaeth a thechnoleg. Mae’r detholiad yma o gyfraniadau yn crynhoi hanfod y darlithoedd, y sgyrsiau a’r hwyl, ac yn rhychwantu sbectrwm eang o ddisgyblaethau gwyddonol a thechnolegol ac yn cynnig cipolwg ar ffiniau gwybodaeth a archwiliwyd yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Dywedodd Tomos Gwyn, un o’r cyfranwyr a chyflwynydd y podleidad Sain Deall,
“Paratowch eich hunan am daith hyfryd o wybodaeth, lle mae cyfrinachau’r bydysawd a digrifwch yn cydgyfarfod mewn cyfrol arbennig.”
Amcan ychwanegol i’r gyfrol yw rhoi cyfle i wyddonwyr a pheirianwyr ifanc ar gychwyn gyrfa i rannu eu gwaith a darganfyddiadau i gynulleidfa ehangach.”
Ceir ysgrifau am amryw o bynciau eang – o siarcod i dractorau’r dyfodol, o dargedu celloedd canser i drawsgrifiad o bodlediad gwyddoniaeth Sain Deall a ddarlledwyd ar Faes yr Eisteddfod – mae rhywbeth at ddant pawb!