Dim Ond Un
NOFEL DDIRGELWCH NEWYDD GAN MELERI WYN JAMES,
WEDI’I HYSBRYDOLI GAN GYFNOD WEDI EI HYNYSU AR YNYS ENLLI
Dilyna’r nofel y ddau brif gymeriad, Carys a Nav, wrth iddynt fentro i Ynys Enlli i ddechrau pennod newydd yn eu bywydau. Mae’n newid byd i’r ddau ac yn gyfle i Carys wella ar ôl cael ei hanafu mewn damwain sydd wedi effeithio ar ei chorff ac ar ei chof.
Ond
o fewn oriau, mae’r tywydd yn troi ac mae yna gymylau duon uwch bennau’r ddau.
Pan mae corff yn cael ei ganfod mae’r freuddwyd o fywyd newydd yn troi’n
hunllef ac mae sawl cyfrinach yn dod i’r wyneb cyn i’r storm ddarfod.
Y man cychwyn oedd wythnos
gofiadwy a dreuliodd Meleri ar Enlli flynyddoedd yn ôl, pan fu’n ysgogi plant i
ysgrifennu ar yr ynys. Yn ystod y cyfnod, fe droiodd y tywydd a chwalwyd y
cynlluniau gwreiddiol.
“Yn anffodus, dim ond un diwrnod oedd hi’n bosib i’r plant ddod
i Enlli a hynny oherwydd y tywydd. Er bod y môr yn rhy arw i hwylio roedd hi’n
ddigon braf ar yr ynys ei hun ac fe ges i wythnos fendigedig yn dod i nabod
Enlli,” meddai Meleri.
Gwnaeth Enlli
argraff fawr arni, ac yn ôl Meleri, “Mae
wedi bod yn ddifyr, fel awdur, i ailymweld â’r ynys ac i ddychmygu sefyllfa
hollol wahanol – beth fyddai’r ymateb petai corff yn cael ei ganfod?”
Fel un sydd wrth ei bodd gyda straeon dirgelwch a nofelau whodunit, dywedodd “Ro’n i am roi
cynnig ar greu fy stori ddirgelwch fy hun, ac fe darodd fi y byddai Enlli yn
lleoliad perffaith. Ar ôl y ddamwain mae Carys yn ymwybodol nad yw ei chof yn
hollol ddibynadwy. Mae hynny’n gwneud iddi amau pobol, hyd yn oed y rhai sydd
fwyaf agos iddi. Fel un sy’n byw gydag epilepsi mae gen i ddiddordeb yn
niffygion y cof.”
Yn adeiladu ar lwyddiant ei
nofel flaenorol Hallt, a enillodd Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2023, mae Meleri yn gobeithio y
bydd Dim Ond Un yn bachu’r darllenwr o’r cychwyn ac yn gwneud
yr un argraff â Hallt. “Mae’r stori’n wahanol iawn ond yn dal yr un tensiwn
cyffrous,” meddai Meleri.
 hithau yn gweithio ym myd cyhoeddi llyfrau Cymraeg, mae
Meleri yn gobeithio y bydd darllenwyr yn cefnogi’r diwydiant drwy brynu’r
nofel, ac yn mwynhau’r daith lawn tensiwn hon.
Mae Dim Ond Un gan Meleri Wyn
James yn cael ei gyhoeddi 15 Hydref (£9.99, Y Lolfa).
Mae Meleri Wyn James yn awdur sydd wedi ysgrifennu llyfrau i blant ac oedolion ers dros 25 mlynedd. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf, Mwydyn yn yr Afal, ar ôl ennill Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd Taf Elai yn 2001. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, Catrin Jones yn Unig, restr fer Nofel 2000 Gwasg Gomer. Roedd yn rhaid ailargraffu’r nofel gan ei bod mor boblogaidd. Roedd ei nofel St@fell i bobl ifanc, hefyd ar restr fer Gwobr Tir na n-Og ac fe addaswyd hi yn sioe lwyfan gan gwmni’r Fran Wen. Meleri wrth gwrs yw awdures y gyfres boblogaidd Na, Nel! i blant oed cynradd sydd bellach hefyd yn sioe lwyfan. Enillodd Meleri’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 am ei nofel Hallt. Mae Meleri yn byw yn Aberystwyth gyda’i gŵr Sion Ilar, a’i merched, Mia ac Esther.
Am wybodaeth pellach, cysylltwch â: [email protected]