Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Dwy ffrind yn cydweithio ar gyfres o straeon amser gwely i blant

Dwy ffrind, Rhiannon Lloyd Williams a Sioned Medi Evans sydd wedi creu’r gyfrol wreiddiol, liwgar, Cant a Mil o Freuddwydion a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Y Lolfa. Dechreuodd y cyfan fel prosiect ar y we ym mis Medi 2019  – Rhiannon yn ysgrifennu a Sioned yn darlunio, wedi i’r ddwy sylwi bod prinder straeon cyn cysgu i blant.

Dywedodd yr artist, Sioned Medi Evans: “Mae’n anodd credu bod bron i bum mlynedd wedi hedfan heibio ers i mi a Rhiannon ddechrau cydweithio gyda’n gilydd, y ddwy ohonom ni’n frwd i ddatblygu ein crefft fel awdur a darlunydd gan greu straeon cyn cysgu i blant. Roedd creu a chyhoeddi’r straeon ar ein gwefan yn brofiad gwych fel rhywun oedd yn megis dechrau ar y daith fel darlunydd, rhoddodd yr awch i mi barhau a chreu mwy. Mae cyhoeddi ein llyfr cyntaf ni gyda’n gilydd yn freuddwyd ymysg y cant a mil”.

Mae’r ddwy wedi llwyddo i greu cyfrol gyffrous, ddeniadol, gyda chymeriadau a sefyllfaoedd cwbl Gymreig. Mae’r straeon hefyd yn cynnwys cymeriadau sy’n cael eu tangynrychioli, boed hynny oherwydd hil, anabledd neu rywedd rhieni.

Dyweda Rhiannon Lloyd Williams ei bod hi’n falch bod Sioned a hithau wedi gwireddu breuddwyd wrth “greu straeon llawn hud ac antur”  efo’i gilydd. Mae’r gyfrol yn cynnwys 10 stori amrywiol sy’n berffaith i’w darllen cyn cysgu. O barot sydd methu chwibanu i fwci bo sydd wedi colli ei jeli, o’r dewin mwyaf doniol yn nheyrnas Dimlle i ddewis y tŷ bach perffaith – mae yna stori at ddant pawb yn y llyfr hwn!

Anelir y gyfrol at blant ifanc i’w mwynhau wrth swatio cyn cysgu efo’u rhieni. Er hyn, byddai’r delweddau bywiog ac arddull hawdd i ddarllen hefyd yn apelio at blant hynach i ddarllen yn annibynnol er mwyn cael cant a mil o freuddwydion hapus!

i
X

Mae'r wefan hon yn defnyddio briwsion.

Er mwyn cynnig y profiad pori gorau i chi, rydyn ni'n arbed briwsion ar eich peiriant. Gallwch ddileu neu analluogi briwsion os hoffech, ond ni fydd y wefan yn gweithio hebddynt. Drwy ddefnyddio'r wefan yr ydych yn derbyn y cawn ddefnyddio briwsion. Gallwch ddarllen mwy am ein polisi briwsion yma.

Derbyn
Gosodiadau

Mae'r wefan hon yn defnyddio briwsion.

Mae rhai o'r briwsion yma yn angenrheidiol, tra bo eraill yn ein cynorthwyo i wella eich profiad drwy daflu goleuni ar sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio. Cliciwch Derbyn i dderbyn y gosodiadau a'u hargymhellir. Mae mwy o wybodaeth yn ein polisi briwsion yma.

Derbyn

Briwsion Angenrheidiol

Mae briwsion angenrheidiol yn galluogi gweithrediad craidd y wefan. Ni all y wefan weithio'n iawn heb y rhain. Gallwch ddiffodd y rhain drwy newid dewisiadau eich porwr ond bydd hyn yn amharu ar allu'r wefan i ddarparu profiad cyson wrth bori, e.e. o ran cofio eich bod wedi mewngofnodi ac ati.


Briwsion Dadansoddi

Mae briwsion dadansoddi defnydd yn ein cynorthwyo i wella ein gwefan drwy gasglu gwybodaeth am natur y defnydd sy'n cael ei wneud o'r wefan. Dim ond gwybodaeth gyfansymiol neu ystadegol sy'n cael ei chasglu drwy hyn, ac nid oes unrhyw ddata personol yn cael ei gasglu.


Briwsion Cymdeithasol

Mae briwsion cymdeithasol yn ein caniatáu i ddangos ein botymau a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Mae'r ffrydiau yn cynnig y gallu i ymateb, hoffi a rhannu negeseuon yn uniongyrchol o'n gwefan, ac er mwyn gwneud hyn, maent yn deffnyddio briwsion Trydydd Parti.