Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Gwasg ddigidol newydd Y Lolfa yn creu argraff

Mae gwasg Y Lolfa yn Nhalybont wedi buddsoddi mewn gwasg argraffu ddigidol newydd fel ychwanegiad i weisg litho’r cwmni. Y Lolfa, sy’n cyflogi 20 o weithwyr,  yw un o’r cwmniau cyntaf ym Mhrydain i brynu’r Xerox Versant 180. Bydd y wasg newydd yn galluogi’r cwmni i argraffu gwaith digidol o’r safon uchaf bosib.

Dywedodd Paul Williams, Rheolwr Gwaith y cwmni, “Mae yna alw cynyddol am argraffu digidol a bydd y wasg newydd yn ein galluogi i argraffu taflenni, posteri, cylchgronau a hyd yn oed llyfrau lliw llawn am brisiau rhesymol dros ben. Mae’r wasg hefyd yn ein caniatau i droi gwaith yn gyflym gyda’r safon argraffu gorau ar y farchnad.”


I gyd-fynd gyda’r datblygiad mae’r Lolfa wedi lansio gwefan ryngweithiol newydd a ddatblygwyd gan Gwerin o Langwyrfon. Yn ogystal â bod yn lwyfan i lyfau’r Lolfa mae’r wefan www.ylolfa.com yn cynnig cyfle i unigolion a chwmniau holi am brisiau argraffu.


Os am gyngor neu bris ar unrhyw waith argraffu gellir cysylltu â Paul Williams ar 01970 831901 neu paul@ylolfa.com

i
X

Mae'r wefan hon yn defnyddio briwsion.

Er mwyn cynnig y profiad pori gorau i chi, rydyn ni'n arbed briwsion ar eich peiriant. Gallwch ddileu neu analluogi briwsion os hoffech, ond ni fydd y wefan yn gweithio hebddynt. Drwy ddefnyddio'r wefan yr ydych yn derbyn y cawn ddefnyddio briwsion. Gallwch ddarllen mwy am ein polisi briwsion yma.

Derbyn
Gosodiadau

Mae'r wefan hon yn defnyddio briwsion.

Mae rhai o'r briwsion yma yn angenrheidiol, tra bo eraill yn ein cynorthwyo i wella eich profiad drwy daflu goleuni ar sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio. Cliciwch Derbyn i dderbyn y gosodiadau a'u hargymhellir. Mae mwy o wybodaeth yn ein polisi briwsion yma.

Derbyn

Briwsion Angenrheidiol

Mae briwsion angenrheidiol yn galluogi gweithrediad craidd y wefan. Ni all y wefan weithio'n iawn heb y rhain. Gallwch ddiffodd y rhain drwy newid dewisiadau eich porwr ond bydd hyn yn amharu ar allu'r wefan i ddarparu profiad cyson wrth bori, e.e. o ran cofio eich bod wedi mewngofnodi ac ati.


Briwsion Dadansoddi

Mae briwsion dadansoddi defnydd yn ein cynorthwyo i wella ein gwefan drwy gasglu gwybodaeth am natur y defnydd sy'n cael ei wneud o'r wefan. Dim ond gwybodaeth gyfansymiol neu ystadegol sy'n cael ei chasglu drwy hyn, ac nid oes unrhyw ddata personol yn cael ei gasglu.


Briwsion Cymdeithasol

Mae briwsion cymdeithasol yn ein caniatáu i ddangos ein botymau a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Mae'r ffrydiau yn cynnig y gallu i ymateb, hoffi a rhannu negeseuon yn uniongyrchol o'n gwefan, ac er mwyn gwneud hyn, maent yn deffnyddio briwsion Trydydd Parti.