Iola Ynyr yn 'perchnogi'r presennol trwy gofio'r gorffennol' yn ei hunangofiant newydd
Yn ei hunangofiant creadigol newydd, Camu, mae’r gyfarwyddwraig, hwylusydd gweithdai cyfranogol a’r awdur Iola Ynyr, yn siarad yn onest am ei bywyd a’i hadferiad o alcoholiaeth trwy gyfres o ysgrifau.
Maent yn cynnwys straeon o’i phlentyndod a’i ieunectid, y cyfnod tywyll pan oedd hi’n gaeth i alcohol yn ogystal a’r llewyrch ddaeth yn sgil rhaglen12 cam i dderbyn ei gorffennol gyda thynerwch, a dychmygu yr hyn sydd i ddod gyda gobaith.
Yn ôl Iola, “Mae’r gyfrol yn wynebu tristwch a heriau yn onest, ond hefo argyhoeddiad bod yna gariad yn llechu yn y tywyllwch. Dwi’n sôn am fanteisio ar greadigrwydd a’m greddf, trwy fyd natur, i leddfu ofnau ac i fod yn saff.
“Dw i hefyd yn dianc i fyd y dychymyg ynddi, y byd yr oeddwn mor gartrefol ynddo yn blentyn. Mae dychymyg a realaeth wedi ei blethu trwy wead y llyfr.”
Mae Iola yn byw yng Nghaernarfon gyda Huw, ac yn fam i dri o blant. Ar ôl 25 mlynedd yn gyfarwyddwr artistig i Theatr y Fran Wen, mae Iola bellach yn artist llawrydd sy’n arbenigo mewn hyrwyddo llesiant trwy greadigrwydd ynghyd â gwaith fel cyfarwyddwraig, dyfeiswraig ac awdur.
Mae hi hefyd yn arwain cynlluniau cyfranogi gyda grwpiau cymunedol megis Ar y Dibyn mewn partneriaeth gyda Theatr Genedlaethol Cymru, ynghyd â Cylchdro a Mwy sydd yn herio tabŵ ynghlwm â'r profiad benywaidd o fyw.
Ychwanegodd, “Mae estyn am gymorth wedi fy ngalluogi i fyw yn well heddiw ac yn arfer mae’n rhaid i mi arddel. Dw bellach yn perchnogi’r presennol trwy gofio’r gorffennol.”
Yn ôl yr awdur, dramodydd a bardd Aled Jones Williams, “Dyma ffordd hollol wahanol o adrodd ‘stori fy mywyd’. Mae anwyldeb y geiriau a’u trywydd yn lapio am y dyddiau blin. A’r anwyldeb sy’n cario’r dydd. Cyfrol sydd yn y diwedd yn foliant i fywyd.”