Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfr am ddementia sy'n annog gobaith a byw bywyd i'r eithaf

Yr wythnos hon cyhoeddir Olwyn Sgwâr: Byw’n Dda gyda Dementia yn rhan o gyfres Darllen yn Well gan y Reading Agency. Mae’n gyfrol bwysig sy’n anelu at roi cymorth i’r sawl sydd yn dioddef a’r sawl sy’n delio gyda dementia. Dymuna’r awduron, sef Peter Berry a Deb Bunt, ledaenu’r neges ‘dydy bywyd ddim drosodd gyda dementia, ond mae ychydig yn wahanol’. Mae’r gyfrol yn rhannu profiadau Peter Berry o fyw gyda’r cyflwr angheuol, a phrofiadau ei ffrind Deb Bunt, sydd wedi dysgu i fwynhau bob dydd i’r eithaf.

Meddai Deb Bunt:

“Yn anad dim, dwi eisiau ysgrifennu’r llyfr hwn oherwydd dywedodd Peter wrtha i unwaith, “Mae arna i ofn y bydda i’n anghofio pwy ydw i a’r pethau dwi’n gallu eu gwneud. Rwy’n falch iawn bod y llyfr wedi’i addasu i’r Gymraeg er mwyn rhannu stori Peter.”

Meddai Peter Berry:

“Mae dementia wedi cymryd cymaint oddi arnai – fy incwm, fy hunan-barch, fy nyfodol. Ond dyma’r peth: dwi wedi cymryd cymaint oddi ar ddementia. Dwi’n byw bob dydd: dwi’n mwynhau bob dydd. Efallai ’mod i’n anghofio hynny eiliadau yn ddiweddarach, ond dwi wedi dysgu byw yn yr ennyd ac mae hynny’n beth gwych a gwerthfawr i’w wneud.”

Mae’r gyfrol yn cofnodi hanes blwyddyn ym mywyd Peter Berry, a chafodd diagnosis angheuol o ddementia cynnar yn 50 oed. Roedd y dyn busnes llwyddiannus o Suffolk yn byw bywyd cyffredin gyda’i wraig Teresa, ond fe newidiodd ei fywyd gyda’r diagnosis.

Fe wnaeth gyfarfod â Deb Bunt, menyw oedd newydd ymddeol, a phenderfynodd y ddau fynd ar deithiau beic rheolaidd gyda’i gilydd. Wrth i’w cyfeillgarwch dyfu, dechreuodd Deb edrych ar ei bywyd ei hun o safbwynt dementia Peter.

Mae Peter belllach wedi codi miloedd o bunnoedd i elusennau dementia, gan seiclo cannoedd o filltiroedd yn ei ymgais i ddangos bod bywyd bob amser yn werth ei fyw.