Llyfr i blant yn cyfleu pwysigrwydd amaethyddiaeth yng nghanol cyfnod o ansicrwydd
Mae'r canwr a’r cyflwynydd poblogaidd, Welsh Whisperer, yn cyhoeddi llyfr amaethyddol i blant sy’n llawn ffeithiau, lluniau a gweithgareddau difyr am beiriannau ac offer y fferm. Mae Llyfr Peiriannau’r Fferm hefyd yn cynnwys codau QR i’w ganeuon poblogaidd fel ‘Ni’n beilo nawr’ a ‘Loris Mansel Davies’.
Bwriad y llyfr yw annog darllenwyr anfoddog i ddarllen, yn enwedig plant gwledig sy’n hoffi anifeiliaid a pheiriannau. Y gobaith yw hefyd y bydd y llyfr yn arf i addysgu plant ar draws y wlad am bwysigrwydd amaethyddiaeth yng nghanol cyfnod heriol iawn i’r diwydiant.
Dywedodd Welsh Whisperer, “Mae'n bwysicach heddiw nag erioed bod plant yn deall o le mae eu bwyd yn dod a bod ffermwyr yn chwarae rôl allweddol yn hynny. Mae'r llyfr yma yn mynd â nhw am dro o gwmpas y fferm i ddysgu mwy am waith ein ffermwyr o ddydd i ddydd a'r peiriannau hollbwysig sy'n cadw'r olwyn i droi yng nghefn gwlad a bwydo'r byd ar yr un pryd!”
Yn dod â’r wybodaeth yn fyw, mae cartwnau gan y cyflwynydd a’r arlunydd o’r Rhondda, Siôn Tomos Owen a ffotograffau gan Morgan Owen o Fôn. Er mwyn denu sylw plant ceir ffeithiau syml ar ffurf pwyntiau bwled, gwybodaeth mewn blychau a geirfa ychwanegol i’w helpu. Ceir hefyd gwybodaeth fwy heriol mewn blychau “Gwybodaeth Glyfar” er mwyn herio’r plant sydd eisoes yn gwybod llawer am ffermio. Yn ogystal, ceir cwisiau i adalw gwybodaeth, tasg liwio a dod i hyd i wahaniaethau rhwng lluniau er mwyn diddanu’r plant.