Llyfr newydd Cyw yn annog plant i fod yn arwyr gan helpu ei gilydd
Mae Archarwyr Byd Cyw, sef y llyfr nesaf yng nghyfres boblogaidd Cyw gan Anni Llŷn, yn dilyn Jangl, Cyw a Triog wrth iddyn nhw wisgo i fyny fel archarwyr yn yr ardd. Ond wrth helpu Plwmp i ddod o hyd i Twm y Tedi Bach, maen nhw’n sylweddoli bod gan bawb y pŵer hud i helpu ei gilydd.
Mae’r gyfres yn gydweithrediad rhwng gwasg y Lolfa, cwmni cynhyrchu Boom Plant ac S4C.
Meddai Sioned Geraint, Comisiynydd Plant, S4C:
“Dwi wrth fy modd yn gweld llyfr arall yng nghyfres llyfrau Cyw a’i Ffrindiau a dwi’n sicr y bydd plethu’r hwyl o fod yn archarwr gyda phwysigrwydd bod yn ffrind da yn du hwnt o boblogaidd gyda’r darllenwyr iau”
Ceir brawddegau byr hawdd-i-ddarllen ar bob tudalen a lluniau lliw hwyliog o Cyw a’i ffrindiau mewn sefyllfaoedd cyfarwydd i blant bach, fel ei bod hi’n hawdd iddyn nhw uniaethu gyda hwy. Defnyddir y gyfres bellach fel arf i ddysgu geirfa a phatrymau iaith syml i blant ifanc. Ceir hefyd cyfres o lyfrau Cyw dwyieithog ar gyfer plant sy’n dysgu Cymraeg fel ail iaith, sef ‘Dysgu gyda Cyw’.
Yn sicr bydd Archarwyr Byd Cyw yn llyfr poblogaidd arall yn y gyfres – mae’r thema archarwyr yn cael ei astudio mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad ac wrth gwrs mae’r gân hwyliog ‘Yr Archarwyr’ gan griw Cyw hefyd yn un o ffefrynnau plant Cymru. Mae 16 mlynedd bellach ers i Cyw ymddangos ar S4C, ac mae’r cymeriad hoffus hwn a’i ffrindiau yn parhau i fynd o nerth i nerth.