Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nelan a Bo

 
Mae’r nofel yn cychwyn yn 1799, pan fo’r ddau brif gymeriad, Nelan a Bo, yn 10 oed.  Roedd y chwyldro diwydiannol ar droed ac anghydffurfiaeth yn ennill ei lle.
 
Ond mae’r nofel hefyd yn stori gariad rhwng Nelan a Bo – cariad sy’n para, gyda’i liwiau cyfnewidiol yn creu patrymau blêr o ystyr ac o deimlad ar gynfas lom y rhostir.
 
Yn ôl yr awdur, Angharad Price, “Yn Nelan a Bo, rydan ni'n gweld y gymdeithas yn datblygu yng nghyfnod allweddol y chwyldro diwydiannol ac anghydffurfiaeth – y cyfnod y cafodd y Gymru fodern ei chreu.
 
“Mae 'na ddylanwadau newydd yn cyrraedd. Dylanwad diwydiannaeth. Holl gyffro a theimladrwydd y Diwygiad Methodistaidd a Rhamantiaeth. A dylanwad llythrennedd hefyd, a rhesymeg a gwyddoniaeth fodern.
 
“Trwy wahanol gymeriadau, mae'r pethau yma i gyd yn effeithio ar Nelan a Bo mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ac yn trawsnewid eu bywydau nhw.



“Ar yr un pryd, mae'r nofel yn stori am gyfeillgarwch a chariad. Mae'r profiadau hynny rydan ni'n eu cael yn ein plentyndod mor bwysig ac mae eu harwyddocâd nhw'n cryfhau, nid lleihau, i rywun wrth fynd yn hŷn.”
 
Hon yw nofel gyntaf Angharad Price ers iddi gyhoeddi Caersaint yn 2010, ac mae’n cyfaddef nad yw’r broses o sgwennu nofelau yn dod yn hawdd iddi.
 
Meddai, “'Dwi wedi bod yn ysgrifennu'r nofel ers deng mlynedd, felly mewn gwirionedd, does yna ddim saib hir wedi bod ers cyhoeddi Caersaint yn 2010!
 
“Dydw i ddim yn ffeindio'r broses o sgwennu nofelau'n hawdd o gwbl. Mae 'na lawer iawn o ail sgwennu'n digwydd. Mi fyddaf yn sgwennu penodau a golygfeydd laweroedd o weithiau cyn bodloni arnyn nhw, ac mae 'na lawer o dorri a golygu cyn i mi ddangos y gwaith i neb. Gormod, o bosib.”

Un o’r heriau wynebodd Angharad wrth ysgrifennu’r nofel oedd cael y cywair cywir.
 
Ychwanegodd, “Mae hi'n nofel hanesyddol, ond roeddwn eisiau i'r iaith fod yn ffres a bywiog - ac eto'n gredadwy ar gyfer y cyfnod. Wedyn, roedd angen dangos sut roedd iaith y cymeriadau yn newid yn raddol dan ddylanwad anghydffurfiaeth a'r Beibl.  Mi allwn i fod wedi sgwennu nofel fwy arbrofol, efallai, heb boeni gymaint pa mor gredadwy oedd pethau.
 
“Ond trwy sgwennu nofel realaidd roeddwn eisiau adlewyrchu'r cyfnod: dyma pryd y daeth y nofel realaidd i fod. Roedd yn ffordd o wneud i ffurf y gwaith ddal ysbryd diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
 
“Mi fyddwn i’n gobeithio bod y nofel yn help inni ddychmygu profiadau Cymry’r gorffennol, ac yn rhoi dealltwriaeth inni o rai agweddau ar ein cymdeithas gyfoes, gan gynnwys straeon ysgubol ein capeli anghofiedig.”