Nofel gyntaf gan hanesydd poblogaidd
Mae nofel gyntaf yr hanesydd o Bwllheli, Bob Morris wedi’i osod mewn dau gyfnod, sef cyfnod Covid-19 a’r 1960au. Mae’r nofel yn llawn dirgelwch, tensiwn a chyffro sy’n adlewyrchu ei ddiddordeb byw yn y chwedegau yng Nghymru.
Dywed Bob Morris ei fod wedi seilio’i nofel yng Nghymru’r chwedegau gan mai dyma oedd cyfnod ei arddegau – “degawd lliwgar a chyffrous ar sawl lefel” a’i fod wedi gwau “materion cyfoes y ddegawd a hwyl a diddanwch bod yn ifanc.”
Yn ôl Menna Medi, “Mae’r awdur yn ei elfen yn pontio dau gyfnod, gan blethu digwyddiadau hanesyddol i mewn i’w ffuglen. Mae’r chwarae yn digwydd mewn llefydd mor amrywiol â Phen Llŷn, Bangor, Aberystwyth, Rhyl a Llundain, ac fe’n hatgoffir yn gynnil am ddigwyddiadau gwleidyddol y cyfnod yng Nghymru a gwledydd fel Malaysia ac America.”
Craidd Y Cysgod yn y Cof yw profiadau Caerwyn Rowlands, gŵr gweddw 75 oed, sydd newydd ddod o’r ysbyty wedi llawdriniaeth fawr. O ganlyniad i’w waeledd, mae Caerwyn wedi colli atgofion ei ieuenctid, ac mae Heulwen, ei ferch, yn ceisio’i helpu i adfer ei gof. Ond wrth i'r darnau ddisgyn i'w lle, mae'n rhaid i Caerwyn ail-fyw ei orffennol cythryblus.
A yw Caerwyn yn barod i wynebu digwyddiadau cythryblus y gwersyll gwyliau Summerland, yn enwedig y penllanw brawychus a gwaedlyd? Yn corddi hefyd o dan y dyfroedd mae anffyddlondeb, euogrwydd, tor calon a thensiynau gwleidyddol yn dilyn boddi Capel Celyn.
Dyweda’r awdur Angharad Tomos, “Gan fy mod yn adnabod yr awdur, ro’n i wedi disgwyl nofel hanesyddol, ond er bod digon o hanes ynddi, aeth ar drywydd gwahanol, ac roedd digon o densiwn. Roedd yn rhaid i mi barhau i ddarllen i gael gwybod beth oedd y diwedd! Cedwir y tensiwn tan y bennod olaf ond un, pan geir drama fywiog o saethu, aberth a chariad yn y dull gorau.”