Oedolyn (ish!)
O gyfarfod cariadus gyda ffermwr o flaen murlun
Cofiwch Dryweryn, i beidio â dwyn brecwast Hugh Jackman reit o flaen ei wyneb,
mae Oedolyn (ish!) yn dangos sut mae Mel wedi trawsnewid camgymeriadau
yn wersi bywyd.
Yn ôl Mel, “Wrth edrych yn ôl ar fy ugeiniau, dwi’n sylweddoli cymaint o gamgymeriadau ydw i wedi eu gwneud. O ddifri, mae na lwyth ohonyn nhw. A dweud y gwir, mae’n eithaf trawiadol sut mae un unigolyn yn gallu gwneud cymaint ohonyn nhw.
“Ond beth ydw i wedi ceisio ei wneud yn y llyfr ydy dangos sut mae camgymeriadau yn gyfleoedd i ddysgu a dangos y daith ydw i wedi mynd trwyddi yn fy ugeiniau wrth dyfu fyny.
“Dwi’n sôn yn onest am bethau fel heriau cyfeillgarwch, y daith droellog wrth ddetio, ceisio torri mewn i’r byd comedi a bod yn hapus yn y fy nghroen fy hun.
“Dwi hefyd yn rhannu rhai o’r profiadau ydw i wedi eu cael fel person brown yn y diwydiant teulu yng Nghymru a thra’n gweithio gyda phlaid wleidyddol yng Nghaerdydd.”
Ers cychwyn gwneud stand-yp, mae Mel wedi ennill amryw o gystadlaethau, gan gynnwys rhai yng nghlwb Comedy Virgins yn Llundain a Comedy Chest ym Mryste.
Roedd hi hefyd yn perfformio yng Ngŵyl Gomedi Caeredin dros yr haf, ble roedd pob tocyn i’w sioe newydd Chunky Monkey wedi gwerthu allan.
Yn ôl y comedïwr, Ellis James, “‘Ymddangosodd Mel ar y sin gomedi Gymreig fel chwa o awyr iach, a nawr mae hi wedi dod â’r chwa i lyfrau Cymraeg gyda’i dawn greadigol arbennig fel llenor.
“Mae Mel yn cyfoethogi’r diwylliant Cymreig yn enfawr.”
Ychwanegodd yr actores, awdur a chyfarwyddwr, Mari Beard, “Mae dawn Mel i ddweud stori dda ar lwyfan wedi trosglwyddo i’r dudalen. Os ydych chi’n hoffi chwerthin, darllenwch y llyfr yma!”