Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Pobol y Cwm LLYFR I DDATHLU ‘OPERA SEBON DELEDU FWYAF HIRHOEDLOG Y BBC'

 Mewn erthygl yn Y Cymro yn 1975, fe ddywedodd Gwenlyn Parry, cyd-sylfaenydd y gyfres, mai’r ‘nod oedd cynhyrchu stwff y byddai Cymry naturiol yn ei wylio, dim amei fod o yn Gymraeg, ond am ei fod o’n ddifyr.’ Mae cynhyrchwyr y gyfres wedi glynu wrth yr ethos hwnnw, ac wedi sicrhau bod bywydau trigolion Cwmderi yn adlewyrchu cymunedau pentrefol o’r fath yn y Gymru gyfoes. Wrth bori drwy’r gyfrol hon, cewch flas ar esblygiad Pobol y Cwm dros y degawdau, a’r ymdrechion i sicrhau bod y cymeriadau’n unigolion o gig a gwaed.

 

‘Dw i’n hynod ddiolchgar i William Gwyn a Dorian Morgan am ymgymryd â’r gwaith o gofnodi atgofion y cast a’r criw o weithio ar y gyfres dros y degawdau. Mae’n gofnod pwysig o gyfraniad a hanes y sebon unigryw hwn. Mae ’na straeon sy’n codi gwên; mae ’na dristwch, mae ’na lawenydd, a’r cyfan yn adlewyrchu’r cynhesrwydd sy’n ganolog i enaid Pobol y Cwm.’ – Dafydd Llewelyn, Cynhyrchydd y Gyfres

 

Mae’r straeon yn nalennau’r llyfr hwn yn eich tywys o ddechrau’r daith yn festri Capel Ebeneser, Charles Street, i Stiwdio C1 yn hen Ganolfan Ddarlledu y BBC yn Llandaf – a Thŷ Oldfield – ac yna i’r cartref newydd ym Mae Caerdydd. Cawn gipolwg ar yr elfennau – y darnau jig-so – sy’n dod ynghyd i greu’r cyfanwaith; y storïo a’r sgriptio, y golygu a’r cynhyrchu, y saernïo setiau, y ffilmio, y coluro, yr actio, y dybio a’r ôl-olygu… a llawer mwy! Fel y dywed yr actores Sera Cracroft, ‘Gwaith tîm ydi Pobol y Cwm ac mae’n bwysig sylweddoli bod pawb yn rhan o’r tîm hwnnw.’  


Dywedodd Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys Dros Dro S4C:

 “Mae’n braf croesawu’r gyfrol hon sydd nid yn unig yn crisialu cyfraniad trigolion Cwmderi i arlwy wythnosol S4C ond sydd hefyd yn ddathliad o garreg filltir arbennig yn hanes teledu yng Nghymru a thu hwnt. Llongyfarchiadau mawr i Pobol y Cwm am ddiddanu cenedlaethau o wylwyr am hanner can mlynedd.”

 

i
X

Mae'r wefan hon yn defnyddio briwsion.

Er mwyn cynnig y profiad pori gorau i chi, rydyn ni'n arbed briwsion ar eich peiriant. Gallwch ddileu neu analluogi briwsion os hoffech, ond ni fydd y wefan yn gweithio hebddynt. Drwy ddefnyddio'r wefan yr ydych yn derbyn y cawn ddefnyddio briwsion. Gallwch ddarllen mwy am ein polisi briwsion yma.

Derbyn
Gosodiadau

Mae'r wefan hon yn defnyddio briwsion.

Mae rhai o'r briwsion yma yn angenrheidiol, tra bo eraill yn ein cynorthwyo i wella eich profiad drwy daflu goleuni ar sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio. Cliciwch Derbyn i dderbyn y gosodiadau a'u hargymhellir. Mae mwy o wybodaeth yn ein polisi briwsion yma.

Derbyn

Briwsion Angenrheidiol

Mae briwsion angenrheidiol yn galluogi gweithrediad craidd y wefan. Ni all y wefan weithio'n iawn heb y rhain. Gallwch ddiffodd y rhain drwy newid dewisiadau eich porwr ond bydd hyn yn amharu ar allu'r wefan i ddarparu profiad cyson wrth bori, e.e. o ran cofio eich bod wedi mewngofnodi ac ati.


Briwsion Dadansoddi

Mae briwsion dadansoddi defnydd yn ein cynorthwyo i wella ein gwefan drwy gasglu gwybodaeth am natur y defnydd sy'n cael ei wneud o'r wefan. Dim ond gwybodaeth gyfansymiol neu ystadegol sy'n cael ei chasglu drwy hyn, ac nid oes unrhyw ddata personol yn cael ei gasglu.


Briwsion Cymdeithasol

Mae briwsion cymdeithasol yn ein caniatáu i ddangos ein botymau a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Mae'r ffrydiau yn cynnig y gallu i ymateb, hoffi a rhannu negeseuon yn uniongyrchol o'n gwefan, ac er mwyn gwneud hyn, maent yn deffnyddio briwsion Trydydd Parti.