Salem a Fi
Darlun enwog Curnow Vosper, Salem, yn gwlwm i hunangofiant newydd Endaf Emlyn
Mae’r gyfrol yn olrhain lle’r darlun eiconig gan Curnow Vosper yn ei fywyd, gan gychwyn gyda’i fagwraeth ym Mhwllheli, ac ymlaen i’r newidiadau mawr ddaeth yng Nghymru dros y degawdau yn sgil sefydlu S4C a labeli recordio Cymraeg.
Meddai Endaf, “Mi oedd hwn yn gyfnod anodd iawn i mi a bu farw fy mam yn fuan wedyn. Tua’r un adeg, mi wnaeth fy nwy chwaer fawr, Mari a Shân, adael cartref a dim ond fi a Nhad oedd ar ôl – dau ar goll mewn tŷ gwag a di-gysur.
“Roedd o’n siŵr o fod yn unig a digalon fel finnau. Ond fyddai run ohonom wedi mentro ymagor i sôn am hyn.”
Ar ôl iddo orffen ei Lefel A, symudodd Endaf i lawr i Gaerdydd i wneud ymarfer dysgu. O fewn wythnosau o fod yn y coleg, rhoddwyd tabledi iselder iddo gan y meddyg, gan iddo weld ei fod mewn pydew o ddigalondid.
“Yn araf, mi ddos nol ata fi fy hun, ond mi oedd hwn yn gyfnod tywyll yn fy mywyd ac mi fyswn i wir yn annog dynion, hen ac ifanc, i drafod eu teimladau gyda theulu neu ffrindiau agos – ac i fynd i weld y meddyg.
“Doedd dim digon o hynny yn digwydd pan oeddwn i yn ifanc, ac mae’n beryg fod hynny dal yn wir heddiw.”
Mae’r hunangofiant yn mynd ymlaen i sôn am ddyddiau cynnar Endaf yng Nghaerdydd – yn cychwyn gweithio ar raglenni cerddoriaeth yn y BBC a HTV ac yn mentro i Lundain i chwilio am label recordio.
Meddai Endaf, “Doedd ‘na ddim llawer o recordiau canu poblogaidd Cymraeg bryd hynny a doedd na chwaith ddim llawer o labeli yn cyhoeddi cerddoriaeth Gymraeg.
“Felly, yn 1970, mi es i Lundain gyda thâp chwarter modfedd yn fy llaw, gyda’r gobaith o ennill fy mara menyn fel cyfansoddwr caneuon.
“Trwy Tony Hatch a’i gwmni cyhoeddi M&M, mi gafodd fy ngwaith ei gyflwyno i’r bobl bwysig yn EMI, ac fe gefais gytundeb pedair record sengl ar label Parlophone – yr un label â’r Beatles.”
Mae’r llyfr yn rhannu cefndir amryw o recordiau mwyaf llwyddiannus Endaf, gan gynnwys ei record hir gyntaf, Hiraeth, a’r ddwy albwm boblogaidd Syrffio Mewn Cariad a Dawnsionara. Mae hefyd yn rhannu hanesion am gyfnod y ‘siŵper grŵp’ Cymraeg, Injaroc, a’u hanesion yn teithio o amgylch Cymru cyn i’r grŵp chwythu ei blwc.
DIWEDD