Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

"Trysor" - Cipolwg ar fywyd fferm yng nghefn gwlad Cymru yn nyddiau cynnar yr 20fed ganrif

Yr wythnos hon cyhoeddir cofnod gwerthfawr o fywyd ar fferm yng nghefn gwlad Sir Feirionnydd yn nyddiau cynnar yr ugeinfed ganrif. Mae Hogyn Bryn Moel yn gofnod o fywyd Goronwy Owen (1901 – 1994) a fagwyd ar fferm Bryn Moel, Llanycil, ger y Bala. Disgrifir y gyfrol fel “trysor arbennig” gan Cledwyn Fychan a dywed: “ni welais enghraifft o orchwylion fferm ddechrau’r ugeinfed ganrif yn cael eu trafod mor fanwl o’r blaen”.

Bu Goronwy Owen yn gweithio fel gwas fferm pan oedd yn 13 oed tan iddo ddechrau fel pupil teacher ac yna i Goleg y Brifysgol Aberystwyth a Choleg yr Iesu, Rhydychen i hyfforddi ar gyfer yr Eglwys. Yn wreiddiol o ardal y Bala (bu’r teulu yn byw ar nifer o ffermydd cyn ymgartrefu ym Mryn Moel), aeth yn gurad ac yna’n ficer gan fyw mewn nifer o lefydd yng ngogledd Cymru, gan gynnwys Bae Colwyn, Glyn Ceiriog a Corwen. Ar ôl cyfnod fel canon yn Llandudno, ymddeolodd i Landrillo-yn-Rhos, lle ysgrifennodd y gyfrol hon o atgofion. Dyma’r testun a ddaeth yn Hogyn Bryn Moel, dan olygyddiaeth Alwyn Evans, mab ei gyfnither.

Meddai Alwyn Evans:

“Derbyniais gopi pur aneglur, teipiedig, o’r ysgrif hon gan Dewythr Goronwy pan yr oedd dros ei naw deg. Bron 30 mlynedd wedi ei farwolaeth yn 1994, cysylltais gyda’m caifn William Dolben, sy’n byw ym Madrid. Roedd William, sy’n or-nai i Goronwy, yn berchen ar gopi ychydig yn gynharach a llai cyflawn o’r testun. Rhwng y llawysgrif yn ei feddiant ef a’r copi llawn bylchau a geiriau annarllenadwy oedd gen i, rwyf wedi llwyddo i ddehongli hanesion fy hen ewythr. Diolchaf i gyfraniadau anhepgor fy mherthnasau i, a disgynyddion teulu Bryn Moel, sef Alan a William Dolben, am eu help gyda’r gwaith. Rwy’n falch bod y gyfrol hon o atgofion yn cael ei gyhoeddi, a straeon Dewythr Goronwy yn cael eu rhannu – mae’r ffordd o fyw sy’n cael ei ddarlunio yn y gyfrol, a llawer iawn o’r arferion, wedi peidio â bod erbyn hyn. Rwy’n falch eu bod nhw rŵan ar gof a chadw.”

Er i Goronwy Owen gael addysg brifysgol a gyrfa lewyrchus yn yr Eglwys, mae’n amlwg bod ei ddyddiau cynnar wedi creu cryn argraff arno. Mae Hogyn Bryn Moel yn gyfrol o straeon am fagwraeth ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, a chofnod gwerthfawr o fywyd fferm – ei draddodiadau a’i amserlen dymhorol – a chymuned glos cefn gwlad. Roedd Goronwy Owen yn arbenigwr ac yn feirniad ar dreialon cŵn defaid, ac fe’i cydnabyddid fel meistr ar drin clefydau ieir a cheiliogod.

Dywed Goronwy Owen yn y bennod olaf:

“Wrth edrych yn ôl, sylwaf gyda chryn syndod y cyfnewidiadau a ddigwyddodd yn hanes yr ardal. Pan oeddwn yn hogyn yr oedd y Capel yn llawn at y drws o addolwyr cyson... Bu chwyldroad mawr hefyd ym mywyd yr ardaloedd gwledig. Graddol ddiflannodd y crefftwyr, y saer coed a’r saer maen, y gof a’r crydd a’r teiliwr a’r melinydd a’r ffatrwr gwlân a’r pannwr. Eu gweithdai hwy oedd prifysgolion yr ardaloedd, a chyda’u diflaniad, daeth newid di-droi’n-ôl i bentrefi’n gwlad.”

Mae’r gyfrol yn llais Goronwy Owen. Lle bo angen, esbonnir ambell derm neu air tafodieithol neu derm amaethyddol yn y troednodiadau.