Geraint Jarman
Yn enedigol o Ruthun, cafodd ei albwm cyntaf, Gobaith Mawr y Ganrif, ei ryddhau yn 1976. Cyhoeddodd sawl albwm arall fel artist unigol a gyda'i fand 'Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr', gan gynnwys Tacsi i'r Tywyllwch, Hen Wlad Fy Nhadau a Diwrnod i'r Brenin.
Ymhlith ei ganeuon mwyaf adnabyddus mae Gobaith Mawr y Ganrif, Tacsi i'r Tywyllwch, Methu Dal y Pwysau a Gwesty Cymru.
Symudodd Geraint Jarman o Ruthun i Gaerdydd pan oedd yn blentyn ac fe gafodd ei ddylanwadu gan rai o gerddorion Riverside.
Dechreuodd ei yrfa fel bardd a chyfansoddwr yn y 60au. Roedd yn aelod o fand Y Bara Menyn yn y 70au cynnar gyda Meic Stevens a Heather Jones, gan recordio caneuon fel Mynd i'r Bala ar y Cwch Banana.
Bu farw Geraint ym mis Mawrth 2025.