Georgia Ruth
Cerddor o Aberystwyth yw Georgia Ruth. Enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013 am Week of Pines. Ers hynny mae wedi rhyddhau Fossil Scale, Mai a Cool Head. Mae ganddi raglen gerddoriaeth wythnosol ar BBC Radio Cymru, lle caiff y pleser o rannu recordiadau newydd ac anhygoel gan gerddorion o bob cwr i'r byd.