Richard Holt
Richard Holt a'i deulu sy'n cadw Melin Llynon - melin yn ardal Llanddeusant, Ynys Môn. Dyma'r unig felin wynt sy'n dal i weithio yng Nghymru. Mae hi bellach yn un o brif atyniadau Môn gyda'i ffactri siocled, y siop Mônuts, a'r modelau o anifeiliaid gwyllt sy'n cuddio yn y coed. Yn ogystal, roedd gan Richard ei sioe deledu ei hun ar S4C - Yr Academi Felys.