Gethin Evans
Ganwyd Gethin Evans yn Llanrug, Gwynedd ond mae bellach yn byw yn Aberystwyth. Cyn ymddeol bu'n swyddog llywodraeth leol, ond wedi hynny ymchwiliodd i hanes y Crynwyr yng Nghymru a'u gweithgaredd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd ei fagu yn yr Eglwys Bresbyteraidd, ond mae'n aelod gyda'r Crynwyr ers 1970, ac wedi gwasanaethu peirianwaith Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion ar lefel Brydeinig a Chymreig. Astudiodd ym Mhrifysgolion Manceinion, Aberystwyth, Caerdydd, Birmingham a'r LSE.