Dyma argraffiad newydd o Nadolig Plentyn yng Nghymru gan Dylan Thomas. Hwn yw un o weithiau mwyaf cyfarwydd a hoffus y bardd sef atgof hiraethus o'r Nadolig drwy lygaid bachgen ifanc. Daw'r cyfan yn fyw drwy luniau'r artist talentog o Abertawe, John Upton sydd wedi seilio ei ddarluniau ar gartref Dylan Thomas. Dengys y lluniau yr ystafelloedd a'r golygfeydd roedd y bardd yn cyfeirio atynt yn ei waith.
Addaswyd y testun gwreiddiol yn grefftus gan Meleri Wyn James er mwyn rhoi fersiwn mwy cyfoes i blant heddiw gan anfarwoli'r bardd dylanwadol.