Dwi yn fy mhedwardegau. Mae 'na ddyddiau pan dwi'n methu cofio enwau fy ngwraig a'n pedwar plentyn...'
Yn 2003, enillodd Lloegr Gwpan Rygb'r Byd. Roedd Steve Thompson yn rheng flaen Lloegr, wrth galon y gêm, ac wrth galon y sgrym - un o feysydd brwydro mwyaf didostur y byd chwaraeon. Ond roedd pris i'w dalu am y fuddugoliaeth honno. Heddiw, nid yw'n cofio dim am chwarae yn y rownd derfynol. Yn ei eiriau ef, mae gwylio'r tâp yn ôl fel gwylio ysbryd.
Mae'r blynyddoedd o boen, a'r diwylliant o dderbyn y cosbi corffrol a dod yn ôl am fwy, wedi achosi difrod erchyll. Mae Steve wedi cael diagnosis o ddementia cynnar, a niwed difrifol cynyddol i'r ymennydd. Roedd Steve a'i wraig, Steph wedi cynllunio bywyd teuluol hapus, gyda degawdau o'u blaenau. Nawr mae angen iddo gipio'r atgofion bregus hyn er mwyn ei blant, cyn iddyn nhw ddiflannu am byth.
Gyda chyfraniadau gan ei gyd-chwaraewyr, cyd-enillwyr Cwpan y Byd a'i gyn-reolwr, Syr Clive Woodward, mae Bythgofiadwy yn adrodd stori rymus a dirdynnol. Mae'r hanes hwn o obaith a dewrder yn pwysleisio cryfder eithaf y meddwl dynol - ac yn dyst i ddyn nad yw mwyach yn gwthio'i hun i'r eithaf ar gyfer cystadlu, ond yn hytrach am ei le ei hun yn y byd.