Traddodwyd Tynged yr Iath ym mis Chwefror 1962, ac meddai Saunders Lewis yn ddiweddarach, 'Yn fuan wedyn sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a dechreuodd efrydwyr ifainc Cymru frwydro o ddifrif dros einioes y genedl, canys dyna ystyr ymladd i gadw'r iaith.'
Mewn fflat yn Aberystwyth noson y darllediad roedd dau fyfyriwr, Geraint Jones ac Emyr Llywelyn, yn dal ar bob gair o'r ddarlith - dau a fyddai'n gwbl ganolog yn nechrau'r Gymdeithas a'i thwf yn y blynyddoedd cynnar. Yn y gyfrol hon mae Geraint Jones ei hun - y cyntaf i'w garcharu dros y Gymraeg - yn adrodd hanes y cyfnod cythryblus hwn o ganol berw'r brwydro. Y sawl a fu a ŵyr y fan.
O'r geni ym Mhontarddulais at y bedydd ar Bont Trefechan, cawn ein tywys gyda'r bobl ifainc heibio i'r tyndra mewnol a'r rhwystredigaethau, ac yn ein blaenau trwy brotestiadau Dolgellau, Llambed, Machynlleth, Abertawe, Pontypridd, Eisteddfod Aberfan a Chaerdydd. Law yn llaw â chymerriadau'r to o arloeswyr a glywodd yr alwad i frwydro ac aberthu, cawn ail-fyw'r ymprydio a'r achosion llys a'r carchariadau a syfrdanodd y wlad gyda newydd-deb a dewrder 'dulliau chwyldro' y torcyfraith di-drais.