I'w Ddiwedd Oer
Yn y gyfrol hon, cawn hanes bywyd yr anturiaethwr o Gymro, Edgar Evans - un o brif gymdeithion yr enwog Gapten Robert Falcon Scott ar ei alldaith enbyd i Begwn y De yn 1912. O droedio creigiau'r arfordir ar drwyn Penrhyn Gŵyr gyda'i annwyl fam-gu - yn hel wyau gwylanod - i rodio gerwinder yr Antarctig ochr yn ochr ag un o'r fforwyr enwocaf erioed, mae stori Edgar Evans yn un ryfeddol.