Lladd Arth
Dilynir hynt y prif gymeriad, Nia, wrth iddi benderfynu mynd am un antur olaf cyn 'setlo i lawr', gan deithio - ynghyd â phedwar gwyddonydd arall - i Ynys Safísk yn yr Arctig i wneud gwaith ymchwil. Wrth i'r criw ddysgu am aderyn prin sy'n trigo yno - a newid tirlun ei gynefin yn y broses - mae'r ynys yn gwylltio, ac yn penderfynu cael gwared ar y bobl sy'n trio ei meddiannu.