Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Polisi Preifatrwydd Y Lolfa

Cefndir Y Lolfa

Mae’r Lolfa’n gwmni cyfyngedig sy’n cyhoeddi llyfrau ac yn cynnig gwasanaeth argraffu masnachol.

Pa fanylion sydd gennym a sut fyddwn ni’n eu defnyddio?

Cysylltiadau

Rydym yn cadw manylion am awduron, cysylltiadau busnes a chwsmeriaid argraffu a chyhoeddi mewn cronfa ddata cysylltiadau ar weinydd mewnol Y Lolfa. Rydym yn defnyddio Mail Chimp i reoli’r rhestr o bobl sydd wedi tanysgrifio i’n cylchlythyr. Rydym yn defnyddio’r data er mwyn rhoi gwybodaeth am gyhoeddiadau newydd, digwyddiadau a chynigion arbennig Y Lolfa yn unig. Rydym yn cadw’r manylion sydd wedi eu cyflwyno i ni all gynnwys cyfeiriad, ebost a rhif ffôn. Rydym hefyd yn cadw hanes archebu cwsmeriaid. Rydym yn cadw manylion banc awduron sy’n awyddus i dderbyn taliadau electronig (rhif cyfrif a rhif didoli) er mwyn talu breindal iddynt ddwywaith y flwyddyn. Rydym yn cadw lluniau o awduron ac o ddigwyddiadau hyrwyddo a bywgraffiadau awduron at ddiben marchnata. Rydym yn cadw manylion cyswllt tanysgrifwyr Mellten.

Cyfeiriadur Y Lolfa

Mae Cyfeiriadur Y Lolfa yn gronfa ddata sy’n cynnwys gwybodaeth am gwmnïau a sefydliadau Cymreig. Cyhoeddir y Cyfeiriadur yn nyddiaduron a ffeiloffaith Y Lolfa ac yn gyhoeddus ar ein gwefan www.ylolfa.com. Byddwn yn cysylltu o dro i dro gyda’r cysylltiadau sydd yn y gronfa ddata yma er mwyn diweddaru gwybodaeth ac er mwyn cyflwyno telerau hysbysebu dyddiaduron Y Lolfa.

Mae’r gweithgarwch hwn yn perthyn i gategori “diddordeb busnes cyfreithlon” y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Pwy sy’n gallu cael mynediad i’r data?

Mae’r cronfeydd data yn cael eu cadw yn ddiogel ar weinydd Y Lolfa a thrwy Mail Chimp. Dim ond staff Y Lolfa sy’n cael gweld y data ac nid yw’n cael ei rannu gyda sefydliadau eraill.

Eich hawliau

Os ydych am ddileu eich manylion o unrhyw gronfa ddata neu o wefan Y Lolfa gellir gwneud hynny ar unrhyw adeg drwy ddanfon neges ebost at garmon@ylolfa.com neu drwy ysgrifennu at Y Lolfa, Talybont, Ceredigion, SY24 5HE. Bydd holl negeseuon marchnata’r Lolfa yn cynnwys cyfle syml i ddad-danysgrifio. Mae croeso hefyd i chi gael mynediad i unrhyw ddata sydd gennym amdanoch, i gywiro unrhyw wallau ac i gyfyngu ar unrhyw brosesu ar y data.

Mae cyfarwyddiadau ar sut i olygu data Cyfeiriadur Y Lolfa yn eglur yn adran berthnasol y wefan www.ylolfa.com/cyfeiriadur. Gellir dileu manylion cwmni, sefydliad neu unigolyn yn llwyr drwy ebostio dyddiaduron@ylolfa.com , ffonio 01970 832304 neu bostio llythyr i Dyddiaduron, Y Lolfa, Talybont, Ceredigion, SY24 5HE. Rydym yn anelu at gywiro neu ddileu data yn ddi-dal o fewn 48 awr i dderbyn cais yn ystod oriau swyddfa arferol.

Os nad ydych yn hapus gydag ymateb Y Lolfa, neu os nad ydych yn credu ein bod yn prosesu eich data personol yn unol â’r gyfraith, gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth https://ico.org.uk/concerns/handling/

Y Lolfa Cyf., Cofrestrwyd yng Nghymru. Cwmni rhif 01465822.

i
X

Mae'r wefan hon yn defnyddio briwsion.

Er mwyn cynnig y profiad pori gorau i chi, rydyn ni'n arbed briwsion ar eich peiriant. Gallwch ddileu neu analluogi briwsion os hoffech, ond ni fydd y wefan yn gweithio hebddynt. Drwy ddefnyddio'r wefan yr ydych yn derbyn y cawn ddefnyddio briwsion. Gallwch ddarllen mwy am ein polisi briwsion yma.

Derbyn
Gosodiadau

Mae'r wefan hon yn defnyddio briwsion.

Mae rhai o'r briwsion yma yn angenrheidiol, tra bo eraill yn ein cynorthwyo i wella eich profiad drwy daflu goleuni ar sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio. Cliciwch Derbyn i dderbyn y gosodiadau a'u hargymhellir. Mae mwy o wybodaeth yn ein polisi briwsion yma.

Derbyn

Briwsion Angenrheidiol

Mae briwsion angenrheidiol yn galluogi gweithrediad craidd y wefan. Ni all y wefan weithio'n iawn heb y rhain. Gallwch ddiffodd y rhain drwy newid dewisiadau eich porwr ond bydd hyn yn amharu ar allu'r wefan i ddarparu profiad cyson wrth bori, e.e. o ran cofio eich bod wedi mewngofnodi ac ati.


Briwsion Dadansoddi

Mae briwsion dadansoddi defnydd yn ein cynorthwyo i wella ein gwefan drwy gasglu gwybodaeth am natur y defnydd sy'n cael ei wneud o'r wefan. Dim ond gwybodaeth gyfansymiol neu ystadegol sy'n cael ei chasglu drwy hyn, ac nid oes unrhyw ddata personol yn cael ei gasglu.


Briwsion Cymdeithasol

Mae briwsion cymdeithasol yn ein caniatáu i ddangos ein botymau a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Mae'r ffrydiau yn cynnig y gallu i ymateb, hoffi a rhannu negeseuon yn uniongyrchol o'n gwefan, ac er mwyn gwneud hyn, maent yn deffnyddio briwsion Trydydd Parti.