Endaf Emlyn
Cafodd Endaf Emlyn ei eni ym Mangor yn 1944 a'i fagu ym Mhwllheli. Bu'n gweithio i'r BBC ac HTV, ac S4C, fel sgwennwr, cyflwynydd, cyhoeddwr, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, ac ambell waith fel canwr. Bu'n gyfarwyddwr ffilmiau arobryn, gan fod yn gyfrifol am ffilmiau fel Y Dyn wnaeth ddwyn y Dolig, Gaucho a Gadael Lenin.